Teyrnged gan deulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Dorothy BowaterFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dorothy Bowater, 71 oed oedd yn byw yn y dref, yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 18:00 nos Iau

Mae teulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abergele wedi rhoi teyrnged i "fam ac i nain gariadus".

Bu farw Dorothy Bowater, 71 oed oedd yn byw yn y dref, yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 18:00 nos Iau.

Mae'r teulu wedi rhoi teyrnged i Ms Bowater gan ei disgrifio fel mam gariadus i'w phedwar o blant ac yn nain gariadus i'w naw o wyrion ac wyresau.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, ond bu farw Ms Bowater o'i hanafiadau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dundonald Avenue ar yr A548, Abergele ar gau am sawl awr wedi'r digwyddiad

Cafodd Dundonald Avenue ar yr A548 ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y gwrthdrawiad.

Aeth teyrnged y teulu yn ei flaen i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion gan ddisgrifio fod Ms Bowater yn berson oedd yn "byw bywyd i'r eithaf "ac y byddai na "golled enfawr ar ei hôl".

"Partiwch gyda'r angylion mam, rydym yn eich caru," meddai.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd gyda deunydd fideo oddi ar gamera yn eu cerbyd i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.