Tai bach sy'n cael ei hariannu gan gynghorau yn crebachu

  • Cyhoeddwyd
Cartwn o dai bach cyhoeddus

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer cynyddol o awdurdodau lleol Cymru'n rhoi'r gorau i ddarparu tai bach cyhoeddus.

Ers 2010 mae 189 o dai bach cyhoeddus oedd yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol unai wedi cael eu cau neu eu trosglwyddo i ofalaeth cynghorau tref a chymuned.

Yn ôl un cyngor a wnaeth ymateb i gais am wybodaeth gan y BBC, Cyngor Caerdydd, doedd dim dewis ganddyn nhw ond cau rhai o'u tai bach cyhoeddus am eu bod yn rhy ddrud i'w rhedeg.

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru bod rhaid i gynghorau weithio gyda busnesau ac eraill er mwyn sicrhau mynediad i dai bach i'r cyhoedd.

Cyllidebau'n crebachu

Yng Nghymru, Gwynedd (73) a Sir Benfro (73) sydd yn darparu'r nifer fwyaf o dai bach cyhoeddus.

Yn ôl ystadegau sydd wedi cael eu casglu gan y BBC nid yw cynghorau Blaenau Gwent, Merthyr Tudful na Chasnewydd bellach yn talu am gynnal a chadw unrhyw dai bach cyhoeddus yn eu hardaloedd nhw. Mae'r mwyafrif wedi cael eu trosglwyddo i ofalaeth cynghorau tref a chymuned.

Dim ond chwech o dai bach cyhoeddus y mae Cyngor Sir Pen-y-bont Ar Ogwr bellach yn gyfrifol amdanyn nhw, o'i gymharu ag 16 yn 2010.

Yn ôl yr awdurdod mae'n debygol y bydd yn rhaid i dri thŷ bach cyhoeddus arall gau yn y flwyddyn nesaf oherwydd bod y gyllideb wedi ei thorri, oni bai bod cynghorau tref neu gymunedol yn cymryd y cyfrifoldeb dros ofalu amdanyn nhw.

Dywedodd Cyngor Sir Casnewydd eu bod nhw wedi penderfynu nôl ym mis Chwefror y byddan nhw'n rhoi'r gorau i ariannu tai bach cyhoeddus, fel rhan o doriadau gyllideb 2018/19, ond bod rhai yn dal ar agor mewn adeiladau cyhoeddus ac mewn parciau.

Penderfynodd Cyngor Powys gau pedwar o'u tai bach cyhoeddus am nad oedden nhw'n cael eu defnyddio, a chynnal adolygiad mawr o'u darpariaeth.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod cynghorau cymunedol bellach yn cefnogi nifer helaeth yn ariannol, ac ambell un yn talu'r awdurdod i ofalu amdanyn nhw.

Does dim rheidrwydd cyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu tai bach, sy'n golygu bod llawer yn cael eu cau wrth i gynghorau edrych ar sut mae torri costau.

Deddf newydd

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn hollol ymwybodol o bwysigrwydd mynediad i dai bach sy'n gallu cael eu defnyddio gan breswylwyr y sir ac ymwelwyr fel ei gilydd.

"Mae prinder adnoddau cyhoeddus fel hyn yn gallu peri pryder i nifer o bobl sy'n dibynnu ar gael mynediad hawdd iddyn nhw.

"Gyda dyfodiad y Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) newydd bydd rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ddarpariaeth o dai bach cyhoeddus yn eu hardal.

"Mae cynghorau eisoes yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn rhannu gwybodaeth ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd, a bydd rhaid iddyn nhw hefyd ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu eu strategaethau.

"Fel rhan o'r datblygiadau yma bydd cynghorau'n gweithio gyda busnesau, y cyhoedd a'r sector gyhoeddus yn ehangach er mwyn sicrhau mynediad hawdd, pan yn bosib, i dai bach i'r cyhoedd."