Gwelliant pellach yng ngraddau A ac A* Safon Uwch
- Cyhoeddwyd
Mae gwelliant pellach wedi bod ym mherfformiad myfyrwyr Cymru o ran graddau uchaf Safon Uwch.
Wrth i gannoedd o ysgolion agor eu drysau er mwyn i fyfyrwyr gael eu canlyniadau, mae'r ystadegau'n dangos fod 8.7% wedi cael gradd A* - y canran uchaf ers i'r radd gael ei chyflwyno yn 2010.
Mae hyn yn golygu bod lefelau perfformiad A* ac A yng Nghymru fwy neu lai yr un fath â'r canran drwy'r DU - ar ôl bod ar ei hôl ers sawl blwyddyn.
Roedd 97.4% o'r canlyniadau rhwng A* i E, sydd ychydig yn is na'r ffigwr y llynedd.
Roedd cyfran y graddau A* yng Nghymru 0.7% yn uwch na'r canran drwy'r DU, gyda 26.3% o'r graddau'n A neu A*, 1.3% yn uwch na'r llynedd.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd perfformiad bechgyn yn y graddau uchaf yn well na'r merched, er bod merched wedi perfformio'n well yn gyffredinol.
Roedd 'na ostyngiad yn nifer y cofrestriadau ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau Safon Uwch eleni - gostyngiad o 5.3% yn gyffredinol.
Dywedodd y rheoleiddiwr cymwysterau, Cymwysterau Cymru, fod gostyngiad yn nifer y boblogaeth ymhlith pobl 17 i 18 oed yn un o'r rhesymau dros hynny.
'Hapus iawn'
Wrth ymateb dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams fod y canlyniadau yn "gadarnhaol a sefydlog".
"Dw i'n hapus iawn bod nifer y myfyrwyr sydd wedi cael A*-A wedi cyrraedd 26.3% - sydd 1.3% yn fwy na'r llynedd ac yn uchafbwynt hanesyddol i Gymru," meddai.
"Mae'n arbennig o braf hefyd gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio pynciau STEM. Mae hwn yn batrwm rydyn ni wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ychwanegodd: "Mae'r rhain i gyd yn rhesymau da iawn pam y dylen ni barhau i fod yn hyderus yn ein system gymwysterau diwygiedig.
"Rydyn ni'n darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ein myfyrwyr er mwyn byw yn y byd modern, a'n her ni nawr yw adeiladu ar y canlyniadau wrth i ni barhau â'n hymgyrch genedlaethol i godi safonau i'n holl bobl ifanc."
Dadansoddiad Bethan Lewis:
Mae 'na groeso i'r cynnydd yn y graddau gorau ond sefydlogrwydd fydd yn plesio'r swyddogion addysg fwyaf.
Mewn cyfnod o ddiwygio cymwysterau, y nod yw sicrhau nad yw'r rheini sy'n gwneud yr arholiadau am y tro cyntaf dan anfantais, na chwaith am hynny yn manteisio o unrhyw newidiadau i'r drefn.
Eleni does braidd dim bwlch rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig yng nghanran y graddau A ac A seren.
Ac i gymharu â rhanbarthau Lloegr, dim ond Llundain a de ddwyrain Lloegr sydd â ffigwr uwch ar gyfer A seren.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Darren Millar fod y canlyniadau diweddaraf yn "galonogol".
"Fodd bynnag, rwy'n parhau i bryderu am y problemau sy'n parhau i wynebu ysgolion Cymru gan gynnwys recriwtio athrawon, safon dysgu, a safle isel cyson Cymru mewn tablau addysg ryngwladol," meddai.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru daclo'r methiannau hyn ar frys er mwyn sicrhau bod disgyblion gweithgar yn sicrhau canlyniadau hyd yn oed yn well yn y dyfodol."
Diwygio
Mae proses o ddiwygio cymwysterau wedi bod yng Nghymru a dyma'r canlyniadau cyntaf ar gyfer 10 Safon Uwch newydd, wedi i 13 arall gael eu harholi am y tro cyntaf y llynedd.
Dechreuodd y broses ddiwygio wedi adolygiad o gymwysterau i bobol ifanc 14 i 19 oed.
Mae'r cymwysterau safon uwch yn parhau'n debyg i rai Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran cynnwys ond gyda phersbectif Cymreig pan fo hynny'n addas.
Yn Lloegr, dydy cymwysterau Uwch Gyfrannol (AS) ddim bellach yn cyfrannu at Safon Uwch ond mae'r cysylltiad yn parhau yng Nghymru ac mae'n cyfrannu 40% at gymhwyster Safon Uwch.
Y pynciau safon uwch newydd a gafodd eu harholi eleni oedd Drama, Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Mathemateg, Cerddoriaeth, Addysg Grefyddol, Astudiaethau Crefyddol, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith.
Mae cofrestriadau wedi gostwng ym mwyafrif helaeth y pynciau eleni, er bod cynnydd o 4% yn y cofrestriadau ar gyfer Bioleg a Dylunio a Thechnoleg ac roedd Cymraeg i fyny 8% i 255 o gofrestriadau.
Roedd gostyngiad o 21% yng nghofrestriadau Addysg Grefyddol, 13% yn llai ar gyfer Astudiaethau Busnes, a 285 o gofrestriadau oedd 'na am Gymraeg Ail Iaith - lawr 15%.
Mathemateg sydd â'r cyfanswm mwyaf o gofrestriadau - 3,950, sy'n gyson â'r llynedd.
Mae canlyniadau'r Fagloriaeth yn cael eu cyhoeddi hefyd.
Mae traean o bobol ifanc 18 oed Cymru wedi gwneud cais i fynd i brifysgol mor belled, ac mae'r gwasanaeth mynediad UCAS yn disgwyl y bydd tua thri chwarter yn llwyddo i fynd i'r sefydliad maen nhw wedi ei roi fel dewis cyntaf.
Bydd y myfyrwyr hynny'n rhan o'r to cyntaf i dderbyn grantiau newydd tuag at gostau byw, dolen allanol fel rhan o newidiadau i'r drefn ariannu myfyrwyr.
MANYLION CYSWLLT Y SYSTEM GLIRIO
Prifysgol Aberystwyth , dolen allanol0800 121 40 80 @Prifysgol_Aber, dolen allanol
Prifysgol Bangor, dolen allanol 0800 085 1818 @prifysgolbangor , dolen allanol
Prifysgol Caerdydd, dolen allanol 0333 241 2800 @prifysgolCdydd, dolen allanol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Saesneg yn unig), dolen allanol 0300 330 0755 @CMetAdmissions, dolen allanol
Prifysgol Glyndwr, dolen allanol 01978 293439 @prifglyndwr, dolen allanol
Prifysgol Abertawe, dolen allanol 0800 094 9071 @Prif_Abertawe, dolen allanol
Y Drindod Dewi Sant, dolen allanol 0300 323 1828 @AstudioYDDS, dolen allanol
Prifysgol De Cymru, dolen allanol 0345 305 4591 @De_Cymru, dolen allanol
UCAS (Saesneg yn unig), dolen allanol 0371 468 0 468 @ucas_online, dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2018
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018