Beirniadu gwahardd ysmygu mewn unedau iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau ysmygwyr wedi beirniadu cynllun i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau i ymestyn y gwaharddiad i unedau iechyd meddwl.
Wrth ymateb i'r ymgynghoriad mae grŵp Forest yn anghytuno, gan ddweud y byddai'r newidiadau yn "afresymol" ac yn "cwtogi ar hawliau" unigolion.
Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd Forest: "Ar ôl mynd i uned iechyd meddwl mae rhai cleifion, allai fod yn dioddef o straen a phryder aruthrol, yn ystyried ysmygu fel un o'r ychydig hawliau neu bleserau sy'n weddill.
"Gall ystafell sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer ysmygu fod o gymorth i gleifion bregus addasu i amgylchedd sy'n gallu ymddangos yn estron iddyn nhw.
"Byddai gwrthod yr hawl iddyn nhw danio sigarét mewn ystafell benodol nid yn unig yn afresymol, ond mae'n cwtogi'r hawliau sydd ganddyn nhw yn eu cartref."
'Gorthrwm diangen'
Mae ymgynghoriad hefyd yn trafod dileu'r hawl i ysmygu mewn ystafelloedd gwesty, ble mae'r gwesty yn dewis caniatáu hynny.
Ychwanegodd Forest: "Roedd y ddeddf yn 2007 yn caniatáu i westai, hostelau a chlybiau aelodaeth i ddarparu ystafelloedd penodedig ar gyfer pobl oedd am ysmygu.
"Byddai dileu hyn yn orthrwm diangen ar yr ychydig fusnesau sy'n dewis cynnig lle i bobl sydd eisiau ystafell lle y maen nhw'n medru ysmygu."
Dywedodd cyfarwyddwr Forest, Simon Clark: "Dyw'r argymhellion yma ddim i wneud gyda iechyd cyhoeddus, oherwydd mae digon o warchodaeth eisoes i bobl sydd ddim yn ysmygu.
"Ry'n ni'n annog gweinidogion i ailfeddwl a pharchu'r ffaith fod tybaco yn gynnyrch cyfreithiol. Os ydy oedolion yn dewis ysmygu gan wybod y peryglon, yna mater iddyn nhw yw hynny nid i lywodraeth."
Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr argymhellion yn dod i ben am hanner nos ar nos Wener.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2017