Adran 2: Caerwysg 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
![casnewydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A043/production/_103072014_86462220-09cd-4650-98c3-a4e2c54f7382.jpg)
Mark Harris yn dathlu sgorio'i gôl gyntaf dros Gasnewydd
Daeth Casnewydd yn ôl yn hwyr i sicrhau pwynt wedi gêm gyfartal yn erbyn Caerwysg ddydd Sadwrn.
Y tîm cartref aeth ar y blaen gyntaf, gyda pheniad i'r rhwyd gan Jayden Stockley wedi 21 munud.
Bu'n rhaid aros yn hir am gôl Casnewydd a ddaeth wedi 81 munud o droed Mark Harris, sydd ar fenthyg o Gaerdydd.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn 18fed safle Adran 2.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd11 Awst 2018