Cwmni tacsi Ola i gynnig eu gwasanaeth yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y cwmni tacsi o India, Ola, yn cynnig eu gwasanaeth yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg o ddydd Llun ymlaen.
Yn gynharach ym mis Awst fe gyhoeddodd y cwmni eu bwriad i symud i'r DU, gan ddewis de Cymru a Manceinion fel eu canolfannau cyntaf.
Ers ffurfio yn 2011, mae Ola bellach yn gwasanaethu 125 miliwn o gwsmeriaid mewn 110 dinas o gwmpas y byd.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw'n gobeithio ehangu i weddill y DU erbyn diwedd 2018.
'Moment gyffrous'
Bydd y cwmni o India yn cystadlu am fusnes yn y DU gydag Uber, cwmni sydd eisoes wedi sefydlu ei hun fel arweinydd y farchnad.
Yn ôl Ola, nhw fydd yr unig ap o'i fath yn ne Cymru sy'n cynnig yr opsiwn o logi cerbydau preifat a gwasanaeth tacsi yn yr un lle.
Dywedodd Ben Legg, Rheolwr Gyfarwyddwr Ola UK: "Mae hon yn foment gyffrous i bawb sy'n ymwneud ag Ola a rydym yn falch iawn ei'n bod ni'n dechrau ein taith yn y DU yn ne Cymru."
Ychwanegodd: "Yn yr wythnosau diweddar mae Ola wedi derbyn adborth cadarnhaol gan yrwyr yn ne Cymru a nawr yn edrych 'mlaen i ddarparu gwasanaeth i deithwyr sydd yn ddeinamig ac yn gyfrifol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2017