Heddlu'n ail-fechnïo cyn-AC Plaid Cymru, Simon Thomas

  • Cyhoeddwyd
Simon Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Mr Thomas ei arestio ym mis Gorffennaf gan heddlu sy'n ymchwilio i honiadau'n ymwneud â delweddau anweddus

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi ymestyn mechnïaeth cyn-AC Plaid Cymru, Simon Thomas am 28 diwrnod yn ychwanegol.

Cafodd Mr Thomas ei arestio gan heddlu sy'n ymchwilio i honiadau'n ymwneud â delweddau anweddus.

Fe ymddiswyddodd Mr Thomas, sy'n briod gyda dau o blant, o'i rôl fel AC dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Mae'r unigolyn o Aberystwyth gafodd ei arestio ar amheuaeth o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant ym mis Gorffennaf wedi cael ei ail fechnïo am 28 diwrnod ychwanegol."