Haf yn 'gyfnod anodd' i bobl sy'n dioddef o unigrwydd

  • Cyhoeddwyd
unigrwyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r haf yn gallu bod yn gyfnod yr un mor anodd i'r rheiny sydd yn dioddef o unigrwydd â misoedd y gaeaf, yn ôl un arbenigwr ar y pwnc.

Dywedodd Dr Deborah Morgan o Ganolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe fod cyfnodau fel y Nadolig yn aml yn cael eu cysylltu â chynnydd mewn unigrwydd.

Ond y gwirionedd yw bod yr haf hefyd yn gallu bod yn anodd, wrth i bobl wylio eraill yn "mwynhau eu hunain" yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Daw hynny wrth i ymchwil awgrymu bod 11% o bobl yng Nghymru yn teimlo unigrwydd.

Peidio mynd ar wyliau

Yn ôl Dr Morgan mae'r haf yn gallu bod yn gyfnod anodd, yn enwedig i bobl sydd wedi colli partneriaid yr oedden nhw'n arfer mynd ar wyliau gyda nhw.

"Dywedodd un ddynes wrtha i ei bod hi'n arfer mynd i garafanio bob haf gyda'i gwr - fe geisiodd hi barhau ar ôl ei farwolaeth ond roedd yn anodd iawn achos bob nos roedd hi'n mynd nôl i'r garafán gyda'r nos ac roedd hi ar ben ei hun unwaith eto, ac roedd hynny'n atgyfnerthu ei theimladau o unigrwydd.

"Mae'r un peth yn wir am lawer o bobl - dyw rhai ddim yn mynd ar wyliau am eu bod nhw ar eu pen eu hunain."

Mae hi wedi cyfweld â channoedd o bobl am eu teimladau o unigrwydd, ac yn dweud bod llawer o bethau y mae modd i bobl wneud er mwyn helpu eraill sy'n teimlo felly.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Deborah Morgan fod pobl sy'n ymddangos fel bod ganddyn nhw lawer o ffrindiau hefyd yn gallu bod yn unig

"Gallwch wneud y pethau bychain - siarad gydag un o'ch cymdogion os 'dych chi'n gwybod eu bod nhw'n byw ar eu pen eu hunain, hyd yn oed os mai jyst 'bore da' bach yw e.

"Nid pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain yw'r unig bobl sy'n unig. Weithiau 'dych chi'n meddwl bod grŵp mawr o ffrindiau gyda nhw, ond safon y cyfeillgarwch yna sy'n eu gwneud nhw'n unig."

Bu farw gwraig Vic Brown bedwar blynedd yn ôl yn dilyn 41 mlynedd o briodas, ac yn dilyn hynny fe wnaeth ei deimladau o unigrwydd gynyddu.

Dywedodd Vic nad oedd ei feddyg na'i weithiwr cymdeithasol wedi gweld y broblem, ac mai ei unig ddymuniad oedd "mynd nôl i'r bywyd oedd ganddo gynt".

Ers ymuno â grŵp cymorth ger ei gartref ym Meifod, Powys, mae'n dweud ei fod wedi darganfod bod unigrwydd yn broblem llawer mwy cyffredin nag y mae pobl yn ei feddwl.

"Mae'n bodoli ar gyfer gweddwon, rheiny sydd wedi gwahanu neu ysgaru, yr ifanc a'r hen, a dwi'n meddwl bod ymwneud yn gymdeithasol, cyfathrebu ac ysbryd cymunedol yn ffyrdd o leihau'r teimlad."

Mae ymchwil wedi awgrymu bod unigrwydd yn effeithio ar iechyd corfforol yn ogystal â meddyliol - gyda'r effaith ar ddisgwyliad bywyd cyfwerth ag ysmygu 15 sigarét y dydd.

Mae unigrwydd hefyd wedi cael ei gysylltu â chyflyrau fel afiechydon cardiofasgwlaidd, pwysedd gwaed uchel a dementia, yn ogystal ag iselder a gorbryder.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ystadegau'n awgrymu mai pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o deimlo eu bod yn unig

Mae dros 75% o fenywod a 33% o ddynion dros 65 oed yng Nghymru yn byw ar eu pen eu hunain, ac yn ôl Age Cymru mae hynny'n golygu risg uwch o unigrwydd.

Ond mae'n broblem sy'n effeithio ar bobl o bob oed, gyda ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau yn canfod bod bron i 10% o bobl 16-24 oed yn dweud eu bod "yn aml neu wastad" yn unig - y gyfradd uchaf o unrhyw grŵp oedran.

Fe wnaeth yr astudiaeth ganfod bod pobl yn llai tebygol o fod yn unig os oedden nhw'n hŷn, gwrywaidd, byw gyda phartner, gweithio, berchen tŷ, gyda chysylltiadau a'u cymuned, neu'n dda eu hiechyd.