Gorymdeithio yng Nghaerdydd i ddathlu Pride Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl wedi bod yn gorymdeithio yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn i ddathlu Pride Cymru.
Cafodd ffyrdd eu cau wrth i Barêd Pride Cymru orymdeithio drwy ganol y brifddinas.
Mae'r parêd yn rhan o Benwythnos Mawr Pride Cymru, fydd yn gweld digwyddiadau cerddorol ar lawnt neuadd y ddinas nos Wener a nos Sadwrn.
Y llynedd fe wnaeth dros 7,000 o bobl gymryd rhan yn y parêd, gan deithio dros filltir trwy strydoedd y brifddinas.
Dywedodd Iestyn Wyn, rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil Stonewall Cymru, bod hi'n "emosiynol" gweld cymaint yn cefnogi'r orymdaith.
Fodd bynnag, pwysleisiodd bod hefyd lle i gydnabod heriau wrth i'r gymuned LHDT a'u cyfeillion ddod ynghyd i ddathlu.
"'Dan ni'n amlwg jyst yn dathlu ond hefyd yn atgoffa pobl o'r hyn sydd gynnon ni'n dal i fynd tuag at y frwydr dros gydraddoldeb i'r gymuned LGBT.
"Mae'n anhygoel gweld gymaint o bobl yn dod allan i gefnogi yn gorymdeithio yma ond hefyd yn fwy na hynny gweld pobl ar y strydoedd sy' ddim yn LGBT yn gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu.
"Mae hynny'n deimlad braf ac mae 'na deimlad o dderbyn yma heddiw ac mae'n eithaf emosiynol."
Yn ôl Belinda Davies, prif uwch-arolygydd ardal Rhondda Cynon Taf dros Heddlu'r De, mae Pride Cymru'n gyfle i "ddathlu'r gymuned" LHDT ac am "annog pobl i ymuno a rhoi croeso iddynt".
Mae hi'n cydnabod bod pethau wedi newid yn llwyr ers iddi ymuno â'r heddlu yn 1990.
Dywedodd bod y dathliadau yn gyfle "i gofio ein hanes a beth mae pawb wedi gorfod mynd drwyddo i gyrraedd y pwynt yma, gan ddod allan i orymdeithio i sefyll yn falch o bwy ydych chi".
"Mae hi bellach yn bwysig iawn i mi fy mod yn agored am fy rhywioldeb a dwi'n gyfforddus iawn gyda hynny," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2017
- Cyhoeddwyd26 Awst 2017