Canslo dwbl nifer y trenau penwythnos a gŵyl banc

  • Cyhoeddwyd
tren GWRFfynhonnell y llun, GWR
Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb wedi dweud fod cytundebau presennol gyrwyr trenau yn un o'r rhesymau

Mae nifer y trenau sydd wedi'u canslo ar gyfer rhai gwasanaethau penwythnos a gŵyl y banc rhwng Cymru a Lloegr wedi mwy na dyblu, yn ôl ffigyrau newydd.

Fe wnaeth Great Western Railway ganslo 90 o drenau rhwng Abertawe a Llundain Paddington yn chwe mis cyntaf 2018.

Roedd hynny dros ddwywaith y nifer o drenau gafodd eu canslo drwy gydol 2017, pan oedd i ffigwr yn 39 - neu 7% o'r gwasanaethau oedd wedi'u hamserlennu.

Dywedodd y cwmni fod gwaith trydaneiddio wedi effeithio ar eu rhaglen ar gyfer hyfforddi gyrwyr.

Trenau newydd

Fe wnaeth 73% o'r gwasanaethau penwythnos a gŵyl y banc sydd wedi'u canslo hyd yn hyn eleni restru "gyrwyr" fel unai'r prif reswm neu'r ffactor wnaeth gyfrannu.

Dywedodd Brian Corbett o undeb gyrwyr trenau ASLEF: "Mae'n ystod eang o broblemau. Yn gyntaf mae gennych chi'r rhaglen drydaneiddio, a'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i wneud hynny rhwng Caerdydd ac Abertawe.

"Mae hynny wedi arwain at lwyth o yrwyr yn aros i gael eu hyfforddi ar gyfer y trenau hybrid newydd.

"Dyw ein gyrwyr ddim wedi gallu dysgu sut i yrru'r modelau newydd yn ddigon cyflym am eu bod nhw mor hwyr yn cael eu cyflwyno."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i beidio trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe hefyd yn ffactor, meddai'r undeb

Ychwanegodd Mr Corbett bod gwaith isadeiledd cyson yn rheswm arall pam nad yw gyrwyr yn dewis gweithio ar ddydd Sul, rhywbeth nad oes rhaid iddyn nhw ei wneud.

Mae'r ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos mai Ebrill 2018 oedd y mis gwaethaf mewn pum mlynedd o ran nifer y trenau gafodd eu canslo, gyda 15 ohonynt ddim yn rhedeg.

Cafodd 11.5% o'r gwasanaethau gafodd eu canslo eu beio ar 'faterion diagram' - gwybodaeth am shifftiau a llwybrau gyrwyr - gyda methiannau technegol yn gyfrifol am 5%, a 3% yn dod oherwydd materion yn ymwneud a rheolwyr neu gasglwyr tocynnau.

Ymddiheuriad

Dywedodd llefarydd ar ran Great Western Railway eu bod dal wedi llwyddo i redeg 93% o'u gwasanaethau, gan gynnwys trenau ganol wythnos, ond eu bod wedi gorfod canslo mwy nag yr oedden nhw wedi'i obeithio.

"Mae oedi i waith trydaneiddio Network Rail wedi cywasgu ein rhaglen hyfforddi gyrwyr i gyfnod byrrach o amser, sy'n golygu bod llai o staff wedi bod ar gael ar gyfer gwasanaethau teithwyr," meddai llefarydd ar ran GWR.

"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra mae hyn wedi achosi.

"Wrth i ni agosáu at gwblhau hyfforddiant ein gyrwyr, ac wrth i drenau newydd Intercity Express gael eu darparu, fe fyddwn ni'n darparu mwy o seddi, gwasanaethau mwy dibynadwy, ac wrth i'r gwaith trydaneiddio ddod i ben, bydd cyfle i newid yr amserlen er mwyn sicrhau siwrneiau cyflymach."