Neges mam i bobl ifanc am beryglon 'gyrru hunanol'

  • Cyhoeddwyd
Kelly KennedyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kelly Kennedy wedi'r gwrthdrawiad ar yr A4067

Mae mam dynes ifanc a gafodd ei lladd wedi i ddau yrrwr arall rasio'i gilydd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc ynghylch peryglon goryrru.

Dywed Tracey Kennedy o Abertawe ei bod eisiau ymweld ag ysgolion a siarad gyda disgyblion am effeithiau damweiniau ar deuluoedd.

Cafodd dau ddyn 23 oed eu carcharu ym mis Ebrill am achosi marwolaeth Kelly Kennedy, 25, ger Pontardawe ym mis Gorffennaf 2016 trwy yrru'n beryglus.

Clywodd y llys fod Liam Price a Cory Kedward yn rasio'i gilydd ar gyflymder hyd at 90 mya pan darodd gar Price Ford Ka Kelly a'i lladd.

Wrth ddanfon y ddau i'r carchar am gyfnodau o chwech a saith mlynedd, dywedodd y barnwr Paul Thomas mai "ennill y gystadleuaeth oedd yr unig beth oedd yn bwysig" iddyn nhw.

Dinistrio bywydau

Ers y farwolaeth mae Mrs Kennedy wedi codi £4,000 ar ran Cruse - yr elusen sy'n cefnogi pobl mewn galar - ac mae'n ymgyrchu i atal goryrru.

"Rydw i eisiau ymweld ag ysgolion a siarad gyda phlant cyn iddyn nhw ddysgu gyrru," meddai.

"Fe wnai ddweud wrthyn nhw sut mae gyrru diofal, hunanol yn dinistrio bywydau a theuluoedd cyfan."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Liam Price (chwith) yn euog i achosi marwolaeth trwy yrru peryglus - fe gafwyd Cory Kedward (dde) yn euog o'r un drosedd yn y llys

Cafodd Ms Kennedy ei lladd wrth deithio adref o'r gwaith tua 22:00.

Dywedodd ei mam ei bod wedi synhwyro bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd pan roedd Kelly'n hwyr adref a ddim yn ateb a dychwelyd galwadau ffôn.

Yna fe glywodd bod y ffordd yr oedd yn arfer ei defnyddio ar gau wedi damwain. Pan gyrhaeddodd yr heddlu, dywedodd ei bod "yn gwybod beth roeddan nhw am ddweud wrtha'i. Nes i jest sgrechian a sgrechian".

Cyn iddi farw roedd Ms Kennedy wedi bod yn gweithio oriau hir mewn dwy swydd yn gofalu am blant awtistig, ac yn hel arian er mwyn teithio i Awstralia a'r dwyrain pell.

"Roedd wedi cyffroi'n lân ac roedd hi'n bwriadu gweithio mewn lloches eliffantod achos roedd hi'n dwlu ar anifeiliaid. Chafodd Kelly ddim mynd ar y trip rownd y byd roedd hi wedi gweithio mor galed amdano."

Ychwanegodd ei thristwch na chaiff hitha "fyth weld fy merch yn priodi" na bod yn nain i'w phlentyn.