Cwpan Carabao: Caerdydd 1 - 3 Norwich City

  • Cyhoeddwyd
Dennis SrbenyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd allan o Gwpan y Gynghrair ar ôl colli o 1 - 3 yn erbyn Norwich City yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd naw newid i'r tîm a gipiodd pwynt yn erbyn Huddersfield ar y penwythnos, gan roi cyfle i aelodau eraill o'r garfan wneud argraff ar y rheolwr.

Yr ymwelwyr dechreuodd orau, cyn mynd ar y blaen drwy ergyd arbennig Dennis Srbeny i gornel uchaf y rhwyd wedi 25 munud.

Wrth i Gaerdydd bwyso am eu gôl gyntaf y tymor hwn, llwyddodd Norwich i wrthymosod yn effeithiol gan roi'r cyfle i Srbeny ddyblu'r fantais gyda 64 munud ar y cloc.

Pum munud yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr wedi sgorio'r drydedd - ergyd Max Aarons o ymyl y cwrt cosbi yn curo Smithies yn y gôl i Gaerdydd.

Llwyddodd y tîm cartref i daro 'nol drwy beniad Bruno Ecuele Manga gyda deg munud i fynd, ond roedd yn rhy hwyr i gael unrhyw effaith ar y canlyniad.