Hal Robson-Kanu yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol
- Cyhoeddwyd

Mae Hal Robson Kanu wedi cyhoeddi ei fod yn ymddol o bêl-droed rhyngwladol
Mae Hal Robson-Kanu a Neil Taylor wedi eu gadael allan o garfan Cymru ar gyfer y ddwy gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc fis nesaf.
Mae ymosodwr West Brom, Robson-Kanu wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 29 oed ar ôl ennill 44 o gapiau a sgorio pum gôl i'w wlad.
Er i gefnwr chwith Newcastle, Paul Dummett ddweud yn y gorffennol nad oedd eisiau cael ei ddewis i Gymru, mae Ryan Giggs wedi'i gynnwys yn y garfan.
Mae'r ymosodwr ifanc Tyler Roberts hefyd yn rhan o'r 25, yn ogystal â Matthew Smith, 18 oed sy'n chwarae i Man City.
Er i gapten Cymru, Ashley Williams gael ei anfon o'r maes dwywaith yn ei dair gêm ddiwethaf i'w glwb, mae ef hefyd wedi cael ei ddewis.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn dilyn cyfnod allan gydag anaf, mae amddiffynwr Chelsea, Ethan Ampadu wedi'i gynnwys.
Mae Jazz Richards, a oedd yn aelod o'r garfan yn ystod Euro 2016 hefyd wedi'i adael allan.

'Eicon' pêl-droed Cymru
Yn dilyn cyhoeddi'r garfan, dywedodd Robson-Kanu: "Rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi byw breuddwyd o gynrychioli fy ngwlad ar lefel rhyngwladol.
"Mae hi wedi bod yn anrhydedd i wisgo'r crys gyda balchder a brwdfrydedd," meddai.
Heb os moment enwocaf Robson-Kanu yn y crys coch oedd y gôl a sgoriodd yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016, pan lwyddodd yr ymosodwr i droi yn sydyn heibio dau amddiffynnwr cyn ergydio'n gywir heibio Courtois.

Robson-Kanu yn sgorio'r ail ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Gwlad Belg
Dywedodd Giggs ei fod yn deall penderfyniad "anodd" yr ymosodwr.
"Mae hi wedi bod yn chwe mis anodd iddo yn dilyn genedigaeth ei blentyn, ac mae'n gobeithio gallu canolbwyntio ar ei deulu a'i yrfa gyda'i glwb," meddai.
Ychwanegodd: "Mae o'n eicon ym mhêl-droed Cymru wedi'r gôl a sgoriodd yn erbyn Gwlad Belg, a hoffwn ddymuno pob lwc iddo."

Bydd Cymru yn chwarae Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd ar 6 Medi a Denmarc yn Aarhus ar 9 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018