Yr actores Heulwen Hâf wedi marw yn 74 oed

  • Cyhoeddwyd
Heulwen Hâf
Disgrifiad o’r llun,

Fe gystadlodd Heulwen Hâf yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1969

Mae'r actores a'r gyflwynwraig Heulwen Hâf wedi marw yn 74 oed.

Yn enedigol o Gorwen, bu'n byw yn Lerpwl a Llundain cyn ymgartrefu yn ardal Llandaf, Caerdydd.

Dywedodd yr actor Stifyn Parri ar ei dudalen Facebook ddydd Mercher: "Yn drist iawn, ac yn dawel bach, bu farw Heulwen Hâf y bore ma, ond mi wneith hi dywynnu a disgleirio am byth."

Ym mis Ebrill 2008 cafodd wybod bod ganddi ganser y fron.

Penderfynodd rannu ei phrofiadau o'r clefyd trwy wneud rhaglen ddogfen 'Blodyn Haul: Stori Heulwen Hâf' ar gyfer S4C.

Ar ôl y driniaeth fe wnaeth raglen arall yn sôn am y broses o wella, ac ysgrifennu llyfr hunangofianol, 'Bron yn Berffaith'.

Ynddo, mae'n siarad yn agored am ei "dwy flynedd gyfan dan glo yn Ysbyty Meddwl Dinbych", ei gyrfa a'r her o wynebu triniaeth canser.

Heulwen Hâf a Stifyn Parri yn noson wobrwyo BAFTA yn 2015
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen Hâf a Stifyn Parri yn noson wobrwyo BAFTA yn 2015

Yn ferch i gigydd, bu'n torri gwallt pan yn iau ac yn rhedeg ei salon ei hun yng Nghorwen, ac yn modelu cyn symud i faes teledu.

Dywedodd Amanda Rees, cyfarwyddwr cynnwys S4C, eu bod yn drist iawn o glywed am farwolaeth Heulwen Hâf.

"Mae colli Heulwen Hâf yn ergyd drom i bawb yma yn S4C sy'n ei chofio fel cyflwynydd a chyhoeddwraig afaelgar a deinamig a pherson hyfryd, hwyliog ac egniol.

"Fe fydd ein gwylwyr yn ei hadnabod fel rhywun difyr a chynnes yn nyddiau cynnar, arloesol y sianel, a oedd yn gallu bachu eu sylw trwy ei phersoniaeth liwgar," meddai.

"Yn hwyrach, dangosodd ei gonestrwydd rhyfeddol wrth ganiatáu i'r camerâu teledu ddilyn ei brwydr ddewr yn erbyn canser y fron yn y dogfennau ysgytwol ac ysbrydoledig Blodyn Haul a Bron yn Berffaith.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan S4C

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan S4C

"Wrth inni ffarwelio â Heulwen, bydd ei phenderfyniad a'i hoptimistiaeth hafaidd, yn y rhaglenni yma, ynghanol y tywyllwch yn aros gyda ni."

Yn ddiweddar bu Heulwen Hâf yn gweithio i godi arian ac ymwybyddiaeth o ganser.

Roedd hi hefyd wedi hyfforddi fel Meistr Reiki ac yn aml yn ymarfer y grefft gyda chleientiaid yn ei gardd.

Am flynyddoedd roedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw yn 2015 am y cyfleoedd i actorion hŷn, dywedodd Heulwen Hâf: "Meddyliwch mewn difri fod popeth o bwys yn yr hen fyd 'ma, yn digwydd i ni rhwng 18 a 40!

"Dyna ddi-liw a di-bwrpas fyddai byw i fod yn hen - fel fi!"