Adam Price eisiau gostwng treth incwm i'r isaf yn y DU

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynllun Adam Price yn cwtogi'r gyfradd sylfaenol ar gyfer treth incwm i 11c y bunt

Dylai Cymru ostwng ei chyfraddau treth incwm i'r rhai isaf yn y DU, yn ôl un o'r rheiny sy'n herio Leanne Wood ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Dywedodd Adam Price y dylai'r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol gael eu gostwng o 9c, ac y dylid diddymu cyfraddau busnes a threth y cyngor.

Byddai trethi newydd ar werth tir ar gyfer tai, busnesau a diwydiant yn gallu ariannu'r newidiadau hynny, meddai.

Yn y cyfamser mae Rhun ap Iorwerth, un arall sy'n sefyll am yr arweinyddiaeth, wedi dweud bod angen edrych mewn ffordd "radical" ar economi Cymru.

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n cael pwerau trethi newydd ym mis Ebrill, fydd yn cynnwys rhywfaint o reolaeth dros dreth incwm.

'Mwy o wariant'

Petai'n arwain Plaid Cymru i fuddugoliaeth yn etholiad 2021 a dod yn brif weinidog, meddai Mr Price, ei fwriad fyddai gostwng trethi er mwyn gweld mwy o wariant yn yr economi a "rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl".

Mae'n dweud y byddai hynny hefyd yn gwneud Cymru'n le "hynod ddeniadol i bobl ifanc sy'n ceisio dychwelyd neu adleoli ar gyfer gwaith neu ddechrau busnes".

Yn ei Strategaeth Economaidd Genedlaethol ar gyfer Cymru, gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener, dywedodd Mr Price y gallai cyflwyno "Treth Gwerth Tir Cenedlaethol ar dir preswyl, tir masnach a thir diwydiannol (ac eithrio tir amaethyddol) gynhyrchu £6 biliwn ar gyfradd o 3% ar werthoedd cyfredol".

Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers chwe mlynedd

"Byddai hyn yn ein galluogi i gael gwared ar gyfraddau busnes, y dreth gyngor a lleihau'r dreth incwm ar y lefel sylfaenol, y lefel uwch a'r cyfraddau ychwanegol, a hynny o 10 ceiniog," meddai.

"Rwy'n cynnig ein bod yn ei dorri o naw ceiniog ac yn defnyddio'r £250 miliwn sy'n weddill fel 'ceiniog i addysg' gan helpu i wrthdroi'r tan-fuddsoddiad enbyd yn ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion.

"Ond bydd cwtogi cyfradd y dreth incwm sylfaenol hyd yn oed i 11% yn cynnig hwb mawr i economi Cymru drwy arwain at fwy o wariant."

Asiantaeth ddatblygu

Wrth fanylu ar ei weledigaeth economaidd yntau, dywedodd Mr ap Iorwerth fod angen "buddsoddi miliynau o bunnoedd" ym "mlociau adeiladu'r genedl", gan gynnwys trafnidiaeth a chysylltiadau digidol.

Galwodd am sefydlu comisiwn isadeiledd "gyda gorchwyl llawer ehangach na'r comisiwn sydd wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru".

Dywedodd ei fod yn benderfynol o "gynyddu canran y gwariant caffael Cymreig sydd yn cael ei gadw yn economi Cymru i 75% o'r cyfanswm, gan greu 40,000 o swyddi o bosib".

Ychwanegodd ei fod eisiau sefydlu "asiantaeth ddatblygu newydd fyddai'n edrych am allan tuag at farchnadoedd allforio newydd i'n cwmnïau cynhenid".

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth yw'r trydydd AC sydd yn y ras arweinyddol

Mae hefyd, meddai, am weld mwy o gymorth i gwmnïau ar eu cyfraddau busnes a chefnogaeth bellach drwy "Fanc Cymru cyhoeddus fydd yn fwy uchelgeisiol a phellgyrhaeddol all godi benthyciadau a chyfalaf ecwiti i fusnesau yng Nghymru".

Mae Ms Wood, sydd wedi arwain y blaid ers 2012, wedi gosod ei gweledigaeth economaidd hithau mewn dogfen bolisi o'r enw "Y Newid Sydd Ei Angen".

Yn y pamffled mae'n dweud y dylai'r rheiny ar y cyflogau uchaf "dalu trethi teg" ac y dylid taclo'r dreth gorfforaethol a ffyrdd eraill o osgoi trethi.

Mae disgwyl i enillydd yr ornest arweinyddol gael ei gyhoeddi ar 28 Medi, wythnos cyn cynhadledd yr hydref Plaid Cymru.