Angen 'gwneud mwy' wrth drin dioddefwyr iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Cell heddlu

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw am welliant pellach wrth i'r nifer o bobl sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ddechrau syrthio.

Mae'r nifer o bobl sydd wedi cael eu cadw gan yr heddlu dan y ddeddf wedi syrthio o 1,825 yn y flwyddyn cyn Mawrth 2017, i 1,746 yn y flwyddyn ganlynol.

Roedd y nifer gafodd eu cadw gan Heddlu'r Gogledd a Heddlu'r De wedi codi, tra bod niferoedd Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gwent wedi gostwng.

Dywedodd llefarydd iechyd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y Cynghorydd Bablin Molik: "Mae'n galonogol gweld y nifer sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn syrthio, ond mae angen gwneud mwy".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ni ddylai unrhyw un gael eu cadw yn y ddalfa dan y fath amgylchiadau

Ychwanegodd Ms Molik: "Ni fyddwn yn hapus tan fod neb yng Nghymru yn cael eu cadw felly yn sgil cyflwr eu hiechyd meddwl.

"Dylai pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl gael eu trin gan feddygon iechyd meddwl proffesiynol, nid cael eu cadw gan yr heddlu."

Yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds mae'r blaid yn "croesawu'r cynnydd mae Heddlu Gwent wedi ei wneud" wrth leihau'r nifer o bobl maen nhw'n eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

"Dwi'n annog lluoedd eraill i ddilyn eu harweiniad," meddai.

"Does gennym ddim bwriad rhoi'r gorau i'r frwydr hon tan fydd neb yng Nghymru'n gorfod cael eu cadw yn y ddalfa [dan amgylchiadau fel hyn]."