Elin Burns: Bywyd diplomydd yn Pacistan
- Cyhoeddwyd
Mae Elin Burns yn gweithio fel diplomydd ac arbenigwr masnach yn Karachi, Pacistan, ac yn delio gyda arweinwyr o'r byd busnes a'r byd gwleidyddol yn ddyddiol.
Yn rhifyn diweddara'r gyfres Benbaladr ar Radio Cymru, cafodd Alun Thomas y cyfle i holi Elin am ei dyletswyddau a'i hargraffiadau o fyw a gweithio ym Mhacistan.
"Mae Pacistan yn y Gymanwlad, ac felly mae 'na Uwch-gomisiynydd a Dirprwy Uwch-gomisiynydd yno, yn hytrach na Llysgennad a Consul General.
"Dwi'n Ddirprwy Uwch-gomisiynydd yn Karachi, sef ail ddinas Pacistan, ac yn fy swydd fi sy'n rhedeg swyddfa Llywodraeth Prydain."
Er mai Islamabad yw prifddinas Pacistan, mae Karachi yn ddinas hynod o bwysig ac un fwyaf poblog y wlad:
"Dwi wastad yn disgrifio fo fel y gwahaniaeth rhwng Washington ac Efrog Newydd. Yn Pacistan mae gen ti Islamabad sydd yn Brifddinas Weinyddol, a Karachi 'di'r hwb busnes - mae'n ddinas enfawr o dros 20 miliwn o bobl ac yn fwy na lot o wledydd, felly mae 'na hen ddigon i'w wneud.
Dyletwsywddau o ddydd i ddydd
"Mae'n swydd brysur, a dydi hi ddim yn un naw tan bump pan ti'n gweithio fel diplomydd dramor.
"Yn fy ngwaith alla' i fod yn ffeindio allan be' sy' 'di digwydd i Brydeiniwr sydd wedi cael trafferthion wrth deithio yma, alla i fod mewn cyfarfod gyda phenaethiaid busnes gan drafod masnachu gyda Phrydain, neu'n hostio pobl sydd wedi cael ysgoloriaeth i fynd i Brydain am flwyddyn.
"Ond y rhan fwyaf o'n swydd yw gweithio dros ddiddordebau Prydain ym Mhacistan, ac yn Karachi yn uniongyrchol."
Mae Elin hefyd yn gyfarwyddwr masnach ym Mhacistan:
"Ar hyn o bryd mae'r farchnad rhwng Pacistan a Phrydain werth rhyw £1.1bn y flwyddyn. Mae 'na bob math o fasnach. Cotwm a thecstilau sy'n cael ei allforio fwyaf o Bacistan, a ni yw marchnad fwya'r wlad o'r Undeb Ewropeaidd ar y foment, ac mae gwasanaethau cyfreithiol hefyd yn bwysig.
"Dwi'n gweithio gyda chwmni Cymreig sy'n ymwneud ag oergelloedd sy'n gweithio ar solar, sy'n amlwg mynd i fod yn ddefnyddiol iawn yn Pacistan."
Gwlad ddiogel?
"Mae'r sefyllfa wedi dechrau newid. Roedd Karachi tan yn eithaf diweddar yn un o'r dinasoedd mwya' peryg yn y byd, ond dydi o ddim fel yna erbyn hyn.
"Mae 'na ymgyrchoedd diogelwch reit llym wedi bod gan y Llywodraeth sydd wedi trio gwneud pethau yn fwy saff. Yn amlwg mae dal problemau ac mae 'na ardaloedd o'r wlad 'da ni'n argymell i bobl ddim teithio iddynt.
"Ond mae 'na lot fawr o'r wlad sy' ddigon saff ond i bobl ddilyn y cyngor sydd gennym ni ar ei gwefan.
"Un o'r pethau y sylwais i pan symudais yma oedd fy mod i wedi cael gymaint o groeso, a'r peth pwysig i mi oedd fy mod i'n gallu rhoi fy araith gynta' i'r staff yn Karachi yn Urdu.
"O'n i'n ymwybodol mod i'n rhywun sydd 'di dod i'w gwlad nhw, a dwi'n meddwl mod i fel Cymraes yn deall faint mae o'n feddwl i bobl pan ti'n gwneud bach o ymdrech.
"Dwi 'di ffeindio bod hynny wedi cael ymateb gwych a dwi'n trio dechrau areithiau yn Urdu nawr, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi wnes i fideo yn Urdu a Chymraeg - roeddwn i eisiau dangos bod gan Brydain ddiwylliannau gwahanol."
Mae Elin yn wreiddiol o Gaerdydd, ac er ei swydd bresennol doedd hi ddim wastad eisiau bod yn ddiplomydd.
"O'n i'n licio ymwneud gyda diwylliannau gwahanol a theithio, ond o'n i'n meddwl byddai rôl diplomydd yn rhy stuffy a fyswn i ddim yn gallu bod yn fi fy hun. Ond mi o'n i'n anghywir.
"Wnes i ddechrau fy ngyrfa gyda'r Gwasanaeth Sifil yn y Swyddfa Gartref, cyn mynd 'mlaen i Swyddfa'r Cabinet.
"Yn sgil hynny fe wnaeth y Swyddfa Dramor ofyn i mi symud atyn nhw i weithio ar y broses o basio Cytundeb Lisbon drwy'r senedd.
"Pan ddaeth y swydd yn Karachi i fyny nes sbïo arno a meddwl taw nid fi ar bapur fyddai efo'r cymwysterau gorau ar ei chyfer, ond oedd yn edrych mor ddiddorol.
"O'n i'n lwcus i gael cynnig y swydd, doedd o ddim yn rhan o ryw gynllun, ond dwi'n mor falch bo' fi 'di gwneud y penderfyniad i fynd amdani."
Mae Elin wedi bod yn y swydd ers bron i flwyddyn, ond gyda'r cyn-gricedwr Imran Khan wedi ei benodi'n Brif Weinidog ar Bacistan yn ddiweddar, faint o newid mae Elin yn rhagweld sydd ar y ffordd i'r wlad?
"Mae o'n newid mawr, achos dyma'r tro cyntaf ers sefydlu Pacistan fel gwlad i rywun heblaw'r ddwy brif blaid ennill yr etholiad. Mae 'na deimlad o gyffro drwy'r wlad gyda lot o bobl ifanc yn pleidleisio am y tro cyntaf.
"Mae yna sawl her, ond ein rôl ni fel llysgenhadon a diplomyddion ydy i weithio efo'r Llywodraeth newydd a'u cynorthwyo nhw mewn meysydd fel addysg ac iechyd, a dwi'n gyfrifol am hybu masnach rhwng y ddwy wlad a hybu'r economi."
Rôl merched
"Beth wnaeth fy synnu i, yn bennaf achos y ddelwedd sydd gan Bacistan dramor, ydy faint o ferched anhygoel dwi'n cwrdd â nhw.
"O'r tu allan i Bacistan, ti'n clywed hanesion am ferched yn cael eu cam-drin, a bod eu rôl nhw efallai ddim mor bwysig.
"Ond be dwi 'di ffeindio ydy bod yna bob math o ferched yn gwneud gwaith anhygoel, o gyfarwyddwr ffilmiau sydd 'di ennill Oscars, cyfreithwyr, merched sy'n rhedeg banciau mawr a merched sy'n dysgu.
"Mae 'na bob math o ferched anhygoel yn gwneud gwaith arloesol mewn cymdeithas lle dydi rôl merched ddim mor hawdd, ac mae'n rhoi lot o obaith i mi ar gyfer y dyfodol.
Ble nesa'?
"Mae hynny'n gwestiwn mawr. Dwi wastad wedi dweud fy mod i ddim yn gwybod be' i wneud pan dwi'n tyfu fyny, felly dwi'n edrych i weld be' fydd yn dod fyny efo'r Swyddfa Dramor.
"Dwi hefyd yn edrych i weld be alla i wneud nôl yng Nghymru, neu dros Gymru, achos dwi wastad 'di bod yn Gymraes reit browd, ac un o'r pethau dwi wedi licio ydi mod i wedi gallu cyflwyno pobl i Gymru ac i'r Gymraeg drwy be' dwi'n 'neud.
"Felly watch this space dwi'n meddwl."