Llysgennad America yn dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Pan gafodd Cynhadledd NATO ei chynnal yng Nghymru yn 2014 aeth Matthew Barzun, Llysgennad America ym Mhrydain, ati i ddysgu Cymraeg. Roedd yn awyddus i roi croeso Cymreig i'r Arlywydd Barack Obama wrth gyrraedd y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Ar 27 Medi bu'r llysgennad unwaith eto yn rhoi ei Gymraeg ar waith ar ymweliad ag Ynys Môn. Bu'n annerch disgyblion Ysgol David Hughes, Porthaethwy, ac anfonodd y neges ddwyieithog hon atyn nhw ar Twitter:
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru cyn cynhadledd NATO eglurodd Mathew Barzun pam ei fod yn awyddus i ddysgu Cymraeg.
"Mae'r Arlywydd Obama yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed i ymweld â Chymru, felly er mwyn nodi'r foment hanesyddol yma penderfynais geisio dysgu ychydig o Gymraeg," meddai.
"Ar ddechrau'r haf dywedais wrth fy nhîm yma yn y llysgenhadaeth yr hoffwn i wneud hyn a gwirfoddolodd aelod o'm tîm o'r enw Naomi fy hyfforddi.
"Dechreuais gyda 'Dwi'n hoffi coffi' cyn symud ymlaen at 'Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch' - roedd hynny'n anoddach na 'Dwi'n hoffi coffi'."
Ei fwriad oedd cyfarch yr Arlywydd Obama gyda'r geiriau 'Croeso i Gymru, Arlywydd Obama'.
"Dwi ddim yn gwybod os bydd e'n deall ond mi wna i esbonio iddo," dywedodd.
'Gollwng y treiglo'
Naomi Roose-Lloyd, yn wreiddiol o'r Rhyl, oedd ei athrawes. Ar y pryd roedd hi'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Materion Diwylliannol yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.
"Cawsom ni sesiwn brainstorming yn Saesneg i ddechrau yna nes i gyfieithu pethau i Gymraeg ond roedd rhai pethau yn rhy anodd felly nes i ollwng ychydig o'r treiglo a phethau felly a thrio sillafu pethau yn ffonetig," meddai.
Dywedodd Ms Roose-Lloyd bod y Llysgennad wedi mwynhau dysgu Cymraeg.
"Mi wnes i recordio fy llais ac mae wedi bod yn gwrnado arno ac wedi gwneud yn dda.
"Mae o'n meddwl ymweld â rhannau eraill o Gymru felly dwi am ddysgu mwy o eiriau fydd yn ddefnyddiol iddo."
Mae yna ffilm fer o'r llysgennad yn dysgu Cymraeg, dolen allanol i'w weld ar wefan YouTube. Gallwch ei weld ar Twitter hefyd, dolen allanol yn mynd i'r afael ag ynganu enw'r orsaf reilffordd enwog honno ar Ynys Môn yn ystod ei ymweliad diweddara' â Chymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2014
- Cyhoeddwyd21 Awst 2014
- Cyhoeddwyd19 Awst 2014