Agor campws ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Bro DurFfynhonnell y llun, Ysgol Gymraeg Bro Dur
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y campws gostio tua £17m i'w hadeiladu

Ddydd Iau fe fydd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhort Talbot yn agor ei drysau'n swyddogol i ddisgyblion am y tro cyntaf.

Ysgol Gymraeg Bro Dur yw'r un cyntaf i wasanaethu disgyblion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne'r sir.

Fe fyddan nhw'n rhannu'r un pennaeth a'u chwaer ysgol, Ysgol Gyfun Ystalyfera, oedd yn un o'r ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf i gael eu sefydlu nôl yn 1969.

Dim ond disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 fydd ar y campws newydd £17m i ddechrau, ond mae lle i hyd at 650 o blant 11-16 oed yn y pendraw.

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields ac Ysgol Gynradd Traethmelyn fel rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Cyn hynny bu'n rhaid i ddisgyblion o'r ardal deithio i Ystalyfera yng ngogledd y sir ar gyfer eu haddysg Cymraeg, taith o bron i 20 milltir i rai.

Dywedodd y cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant fod yr ysgol newydd "yn rhan allweddol o gynlluniau'r cyngor i gryfhau darpariaeth addysg Gymraeg yn y fwrdeistref sirol".