Beth yw maint Cymru?

  • Cyhoeddwyd
area of wales

"An area the size of Wales." Dyma ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio yn aml wrth i newyddiadurwyr a chyflwynwyr teledu geisio rhoi syniad o faint rhyw arwynebedd penodol.

Ond beth am faint ein gwlad? Mae 'maint Cymru' wedi ei ddefnyddio ers blynyddoedd i fesur rhannau arall o'r byd. Mae 'rhan o goedwig law maint Cymru' a 'rhan o'r Arctig maint Cymru' yn cael ei ddefnyddio mewn rhaglenni dogfen ac erthyglau yn gyson.

Mae'r term yn cael ei ddefnyddio gymaint nes bod hyn yn oed elusen The Size Of Wales, dolen allanol wedi ei sefydlu gyda'r nod o warchod ardal o'r goedwig law maint Cymru.

Ond pa mor fawr yn union yw 'ardal maint Cymru'? Cymru Fyw sy'n rhannu 'chydig o ffeithiau:

Cymharu â gwledydd eraill

Mae Cymru yn 8,015 milltir², 20,758km², sydd yn 5,129,413 acer a 2,075,800 hectar. Mae hyn yn golygu fod Cymru yn 8% o diriogaeth y Deyrnas Unedig.

Mae Lloegr yn 50,350 milltir² ac yn 130,427km², sydd oddeutu chwe gwaith maint Cymru.

Mae'r Alban 30,421 milltir² ac yn 78,789km², sydd 3.8 gwaith yn fwy na Chymru.

Os y byddai Cymru'n wlad annibynol mi fyddai yn y 153fed safle o ran maint o'r 233 gwladwriaeth a tiriogaethau dibynnol yn y byd.

Mae Cymru ychydig bach yn llai nac Israel ac El Salvador, ond ychydig yn fwy na Slofenia a Fiji.

Mae'r Iseldiroedd bron union ddwywaith maint Cymru, gyda Chiwba a Bwlgaria bron bum gwaith yn fwy.

Mae Cymru tua dwywaith maint Jamaica, ond gyda phoblogaeth debyg iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Iseldiroedd (41,850km2) a Jamaica (10,991km2) ym Môr y Caribî

Taleithiau America

Mae Cymru yn agos iawn i faint Massachusetts ar arfordir ddwyreiniol America, ac ychydig yn fwy na New Jersey.

Ond mae Kansas 10 gwaith yn fwy na Chymru, Texas 32 gwaith yn fwy, ac mae Alaska - y dalaith fwya' - 71 gwaith yn fwy.

Disgrifiad o’r llun,

Massachusetts yng nghornel gogledd ddwyrain UDA

Mae Gwlad y Basg, sydd wedi rhannu rhwng gwladwriaethau Ffrainc a Sbaen yn 20,947 km² - sydd bron yn union yr un maint â Chymru.

Mae pedair talaith y wlad ar ochr Sbaen y ffin, a thair talaith ar yr ochr Ffrengig.

Disgrifiad o’r llun,

Gwlad y Basg, sydd ar arfordir Bae Biskaia

Ond mae llawer o wledydd sydd dipyn llai na Chymru.

Mae Cymru bedair gwaith yn fwy na Trinidad a Tobago, 66 gwaith mwy na Malta a 417 gwaith mwy na gwladwriaeth leiaf y byd, y Fatican.

Disgrifiad o’r llun,

Sgwâr St Pedr, Y Fatican

Hefyd o ddiddordeb..