Paratoi am Gŵyl Rhif 6 'olaf am y tro' ym Mhortmeirion
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl 12,000 o bobl dyrru i bentref Portmeirion dros y penwythnos ar gyfer Gŵyl Rhif 6 olaf "am y tro."
Mae'r ŵyl, sydd wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol, wedi bod yn cael ei chynnal yn y pentref yng Ngwynedd ers 2012.
Mae artistiaid megis y Manic Street Preachers, Mark Ronson, Geraint Jarman a'r Super Furry Animals wedi perfformio yno dros y blynyddoedd.
Bydd yr ŵyl eleni yn dechrau ddydd Gwener ac yn parhau dros y penwythnos, gyda Franz Ferdinand a Jessie Ware ymysg y prif artistiaid.
'Gŵyl unigryw'
Er i'r trefnwyr disgrifio'r ŵyl fel un o'r rhai "mwyaf unigryw yn y byd", maen nhw hefyd yn dweud nad yw'n gynaliadwy.
Dywedodd y trefnwyr: "Mewn chwe blynedd fer iawn, mae apêl yr ŵyl wedi tyfu yn llawer mwy na'r capasiti, drwy ennill nifer o wobrau, derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol a throi yn un o'r gwyliau mwyaf unigryw yn y byd.
"Roeddem wastad yn gwybod fod gennym ni rhywbeth arbennig, ond doedden ni ddim yn credu y byddai'n dal dychymyg pobl fel hyn.
"Yn anffodus, dyw'r ŵyl ddim yn gynaliadwy yn y fformat presennol, felly rydym wedi cymryd y penderfyniad anodd y gymryd seibiant. 2018 fydd yr ŵyl olaf am y tro."
Cerbydau'n sownd
Yn 2016 fe wnaeth y tywydd gwlyb effeithio ar feysydd parcio yn yr ardal, wnaeth olygu bod nifer o gerbydau yn sownd yno am ddyddiau.
Eleni, bydd bysiau gwennol ar gael o Fferm Llwyn Mafon Uchaf yng Nghriccieth oddi ar yr A487.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio rhwng Criccieth a Phenrhyndeudraeth i gynorthwyo gyda llif y traffig, gyda mynediad i breswylwyr yn unig.
Fe fydd yr A497 rhwng Porthmadog a gorsaf Minffordd ar gau i gerbydau o 22:00 i 04:00 pob nos, gyda bws hefyd yn teithio 'nôl a 'mlaen o orsaf drenau Bangor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd7 Medi 2016