Cytundeb newydd i Thomas gyda thîm Sky

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas of Team SkyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pencampwr Tour de France, Geraint Thomas, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gyda Team Sky.

Roedd cytundeb y Cymro 32 mlwydd oed yn dod i ben ddiwedd 2018, ac roedd wedi derbyn cynnig gan dimau eraill.

Ond mae'r seiclwr, sydd wedi ennill medal aur Olympaidd ddwywaith wedi llofnodi cytundeb gyda Sky, er iddo ddweud yn 2017 y byddai'n ystyried cynigion gan dimau eraill.

"Rydw i'n falch ei fod wedi cael ei drefnu ac yn falch o fod yn aros gyda Sky," meddai Thomas.

Misoedd gwallgof

"Bu'n siwrnai da i mi gyda Team Sky ac yn amlwg mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn wallgof.

"Mae pob dim yn gweithio'n dda iawn imi yma ac rwy'n teimlo'n gyffrous am yr hyn sydd eto i ddod."

Un tîm a wnaeth gynnig cytundeb iddo, ar ei delerau ei hun, oedd tîm WorldTour CCC, sydd a'i nawdd yn dod o Wlad Pwyl.

Dywedodd cyfarwyddwr chwaraeon y tîm, Piotr Wadecki, ei fod eisiau adeiladu ei dîm Tour de France o'i gwmpas.

Er nad yw swydd Thomas fel arweinydd tîm yn sicr, roedd pennaeth Team Sky, Syr Dave Brailsford, wedi bod yn "eithaf sicr" y byddai ei gyd-Gymro yn aros gyda nhw.

"Mae'r hyn y mae Geraint wedi'i gyflawni gyda'r tîm hwn yn ddim byd ond rhyfeddol," meddai Brailsford.

"Mae'n stori wych. Mae e wedi bod gyda ni ers y cychwyn cyntaf ac mae wedi parhau i ddatblygu a gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn."