Leanne Wood: 'Tir canol gwleidyddol ddim yn atyniadol'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Leanne Wood nad yw ei gwrthwynebwyr wedi ei herio ar faterion polisi

Dyw'r tir canol yng ngwleidyddiaeth Cymru ddim yn fan atyniadol i fod ynddo, medd arweinydd Plaid Cymru.

Wrth siarad â Newyddion9 dywedodd Leanne Wood ei bod wedi'i synnu bod yna her i'w harweinyddiaeth gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd Ms Wood: "Mae'r tir canol yng Nghymru yn cael ei ddal gan Lafur a phan mae pobl yn siarad â fi am ddod yn fwy canolog dwi'n meddwl am y Democratiaid Rhyddfrydol a Tony Blair.

"Dyw e ddim yn fan atyniadol i fod ynddo ac mae'n fan poblog."

Cyflwynodd y ddau ymgeisydd arall eu henwau am yr arweinyddiaeth oriau cyn oedd disgwyl i'r enwebiadau ddod i law ym mis Gorffennaf.

'Synnu bod her'

Pan ofynnwyd i Ms Wood a oedd hi wedi'i synnu fod yna her i'w harweinyddiaeth, dywedodd: "Mae'r rhan fwyaf o heriau yn seiliedig ar wleidyddiaeth a pholisi ac felly mae'n debyg fy mod i wedi cael fy synnu."

Wrth gael ei holi am ba bolisïau roedd eu gwrthwynebwyr yn anghytuno â nhw dywedodd AC Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru ers 2012: "Does neb erioed wedi dweud wrthyf fod y polisïau sydd gennym o fewn y blaid yn rhai problematig.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price a Rhun ap Iorwerth yn herio Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru

"Felly mi fyddwn yn herio unrhyw un i ddweud sut rwyf wedi cyfeirio'r blaid i gyfeiriad arbennig.

"Cyn belled â dwi'n gwybod does yna ddim anhapusrwydd am ein rhaglen - rhaglen waith a gafodd ei rhoi at ei gilydd gan Adam Price cyn yr etholiad."

'Dim cytundeb'

Dywedodd Leanne Wood ymhellach "ei bod hi'n bosib" y bydd Mr Price a Mr ap Iorwerth yn dod i gytundeb â'r Ceidwadwyr wedi etholiad 2021.

Ychwanegodd: "Os yw pobl yn fodlon pleidleisio ar gyfer ymgeisydd a fyddai'n Brif Weinidog Plaid Cymru fel y gwnaethon nhw o'r blaen neu os ydynt yn fodlon pleidleisio dros ein rhaglen mewn llywodraeth neu ein cyllideb - yna dwi'n fwy na bodlon i dderbyn y pleidleisiau.

"Mi fydd y pleidleisiau hynny yn cael eu cymryd ar delerau Plaid Cymru ac nid wrth wrth lunio cytundebau, yn enwedig gyda'r Ceidwadwyr."

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 28 Medi.