S4C yn ymrwymo i swyddfa Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Swyddfeydd S4CFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y les gwreiddiol ei harwyddo yn 2007

Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo estyniad o ddeg mlynedd i les eu swyddfa yng Nghaernarfon.

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r sianel symud ei phencadlys o Gaerdydd i adeiladau newydd Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Dywed S4C fod y cytundeb newydd ar gyfer y swyddfeydd yn Noc Fictoria, Caernarfon yn dangos eu "hymrywmiad i ogledd Cymru".

Mae'r sianel wedi bod â phresenoldeb yng Nghaernarfon ers dechrau'r 1980au, a chafodd y les gwreiddiol ar gyfer Doc Fictoria ei arwyddo yn 2007.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans: "Ar amser o newid mawr yn S4C, ac wrth i ni symud ein prif swyddfa i Gaerfyrddin mae'n bwysig fod S4C yn gallu dangos ei hymrwymiad i Gymru gyfan.

"Yn ychwanegol at leoliadau'r dyfodol yng Nghaerfyrddin a Sgwâr Canolog Caerdydd, rwy'n falch bod ni wedi gallu gwarantu ein presenoldeb yng ngogledd Cymru am ddeng mlynedd arall.

"Mae 12 o staff llawn amser yn gweithio yn y swyddfa ac mae nifer o staff eraill yn ei ddefnyddio'n rheolaidd i gwrdd â chynhyrchwyr annibynnol lleol."