Dim sicrwydd y bydd pennaeth S4C yn symud i Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr newydd S4C wedi datgelu nad oes sicrwydd y bydd yn symud i Gaerfyrddin wrth i'r sianel ad-leoli ei phencadlys yn y dref.
Yn ystod sgwrs ben-blwydd ar Raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore Sul, dywedodd Owen Evans nad oedd "yn siŵr" os bydd ef yn bersonol yn symud i Gaerfyrddin, unwaith y bydd S4C yn symud i ganolfan Yr Egin.
Dywedodd yn ystod y cyfweliad: "Bydd swyddfa'r prif weithredwr yng Nghaerfyrddin o'r dydd cyntaf... ond gai weld os symudai draw."
Eglurodd yn ystod y cyfweliad fod disgwyl i weithwyr symud i ardal Caerfyrddin dros gyfnod o flynyddoedd, gan dderbyn y bydd rhai pobl yn cymudo yn ddyddiol, ond mae Mr Evans hefyd yn gobeithio y bydd pobl leol yn elwa o swyddi newydd yn y ganolfan.
'Egni newydd'
"Mae'r ffaith fod sefydliad fel S4C yn mynd i weithio yng nghanol cefn gwlad yng Nghaerfyrddin yn beth gwych," meddai.
"Yn barod, 'dani wedi cymryd ymlaen ein person cyntaf ni sy'n byw yn yr ardal, dwi wedi bod yn cwrdd â'r cyngor, yn cwrdd â'r brifysgol, mae 'na rîl bwrlwm byti'r lle.
"Ambell waith mae symud felma yn rhoi egni newydd i sefydliad... mae'n rhaid i ni greu gwasanaeth cyflawn o Gaerfyrddin a dwi'n edrych mlaen."
Mae'r Egin yn ddatblygiad ar y cyd gan nifer o sefydliadau o'r maes a'r diwydiant creadigol yng Nghymru.
Mae un o'r prif ran-ddeiliaid, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd wedi'i gwblhau erbyn haf 2018.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd10 Mai 2017
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2017