Clwb Aberystwyth yn enwi lolfa i gofio Emyr James

  • Cyhoeddwyd
Emyr JamesFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Emyr James yn ystod cinio Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn 2015

Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi enwi lolfa ar Goedlan y Parc nos Sadwrn,er mwyn coffáu un o brif swyddogion y clwb.

Roedd Emyr James, a fu farw dair wythnos yn ôl, wedi bod yn ysgrifennydd a thrysorydd y clwb ac hefyd yn gyfarwyddwr oes.

Dywedodd cyfarwyddwr y wasg Aberystwyth bod "dyled [y clwb] i Emyr yn enfawr".

Dywedodd Thomas Crockett: "Ro'n i'n teimlo bod rhaid i ni 'neud rhywbeth i gydnabod ei waith."

"Roedd Emyr yn swyddog gyda'r clwb am 28 mlynedd - swyddog arbennig o drefnus ac roedd e'n ffrind i bawb.

"Roedd e'n un o'r swyddogion hynny oedd yn anghydweld ond doedd e byth yn cwympo mas. Pan oedd y tîm wedi colli roedd e'n codi'r ysbryd ac yn hael iawn wrth y bar."

Disgrifiad o’r llun,

Wyrion Emyr James cyn y gêm yn erbyn Y Bala

'Cymeriad hwyliog'

Yn ei waith bob dydd roedd Emyr James yn gyfarwyddwr busnes Undeb Amaethwyr Cymru, a chyn hynny bu'n rheolwr amaethyddol i fanc yr HSBC.

Ychwanegodd Mr Crockett: "Roedd cael rhywun o'i brofiad e yn help mawr i'r clwb, ond roedd e hefyd yn gymeriad hwyliog.

"Wi'n cofio fe yn cyflwyno noson i ni rhywdro ac roedd ei straeon yn hynod ddifyr.

"Os oedd gemau canol wythnos fe fyddai Emyr yn gyrru bws mini - ac os oedden ni'n mynd yn agos i Ffostrasol rhaid oedd stopio gan bod Emyr yn arfer chwarae i'r tîm.

"Ry'n ni'n falch ein bod yn gallu ei anrhydeddu."

Ffynhonnell y llun, Lowri Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Yr actores Lowri Steffan a'i thad, y diweddar Emyr James

Cafodd lolfa y noddwyr ei henwi'n swyddogol cyn gêm Aberystwyth yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn.

Dywedodd merch Mr James, yr actores Lowri Steffan, y byddai cael y seremoni cyn y gêm yn "gweithio yn dda", gan bod ei thad "yn hoff iawn o dîm Y Bala".

"Ni'n falch iawn o'r gydnabyddiaeth - roedd Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn rhan mor fawr o fywyd dad - mae e'n rhywbeth arbennig i ni fel teulu.

"Roedd dad yn gwisgo blazer Aberystwyth gyda balchder - o ie a'r siwmper werdd 'na - ac mae'r wyrion nawr wedi cael crysau gwyrdd a du, lliwiau Aberystwyth wrth gwrs, ac fe fydd yr wyrion yn mascots yn y gêm nos Sadwrn.

"Roedd dad yn hynod o driw i'r clwb. Weithiau bydden ni'n mynd fel teulu ond byddai dad wastad yn mynd."

Dyw Aberystwyth ddim wedi cael canlyniadau gwych yn ddiweddar ,gyda cholled o 6-0 yn erbyn y Seintiau Newydd nos Fawrth.

Yr wythnos ddiwethaf cyn gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon roedd yna deyrnged i Emyr James yn Stadiwm Dinas Caerdydd.