Agor parc dŵr ym Mharc Tredegar, Casnewydd yn yr haf

  • Cyhoeddwyd
Newport splash parkFfynhonnell y llun, Michael Enea
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Enea yn un o'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu i'w ailagor

Mae disgwyl i barc dŵr agor ym Mharc Tredegar yng Nghasnewydd erbyn haf 2019.

Mae nifer o bobl wedi bod yn galw ar y cyngor i ddarparu parc dŵr ers i'r hen un gau yn 2014 oherwydd problemau mecanyddol.

Yn ôl Michael Enea, sydd wedi bod yn ymgyrchu am gael adnodd newydd, mae ymchwil yn dangos y bydd 10,000 o bobl yn ei ddefnyddio dros gyfnod o chwe mis.

Dywed swyddogion cyngor eu bod yn darparu cynlluniau ac y byddai cais yn cael ei gyflwyno yn fuan.

Mae dros 1,600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am barc dŵr ar y safle.

Ffynhonnell y llun, Michael Enea
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Enea a'i deulu yn ymwelwyr cyson â'r hen barc dŵr

Disgrifiad o’r llun,

Mae lido Pontypridd yn hynod boblogaidd ers ei ailagor

Dywedodd Mr Enea fod cyfleusterau dŵr yn dod yn fwy poblogaidd.

Nododd bod Lido Pontypridd, sydd bellach wedi denu 200,000 o ymwelwyr, yn brawf o hynny.

Fe ailagorodd Lido Pontypridd yn 2015.

Ychwanegodd Mr Enea fod parc dŵr Weston-Super-Mare wedi denu 21,000 o ymwelwyr yn 2017 ac wedi gwneud elw o £22,000.

Ychwanegodd: "Yn amlwg dyw parc Casnewydd ddim yn mynd i ddenu cymaint â hynny ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bydd 10,000 yn ymweld ag ef."