Apêl i gadw Neuadd Buddug Y Bala ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder ymysg rhai o bobl Y Bala ynglŷn â dyfodol neuadd sydd wedi bod yn "ganolbwynt i'r gymuned ers dros ganrif".
Ar ddiwrnod ola'r flwyddyn eleni bydd drysau Neuadd Buddug yn cau, wrth i'r sinema gael ei symud i'r ysgol gydol oes newydd sy'n cael ei chodi yn y dref.
Mae cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu i drafod y camau nesaf, wedi iddi gael ei gadarnhau bod cynlluniau i werthu'r adeilad.
Dywedodd cadeirydd Ffrindiau Neuadd Buddug, Nancy Thirsk, y byddai cau'r neuadd yn golygu "colli adnodd pwysig cymunedol yn Y Bala a Phenllyn".
'Dirywiad y neuadd'
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau fod "cyflwr presennol Neuadd Buddug wedi dirywio'n eithriadol a byddai angen buddsoddiad sylweddol i'w chadw ar agor".
Mae Neuadd Buddug wedi bod yn cael ei defnyddio fel theatr a sinema yn yr ardal ers blynyddoedd.
Mae Clwb Rygbi Y Bala yn defnyddio'r neuadd yn flynyddol i lwyfannu pantomeim, ac yn ôl Janice Roberts, sy'n aelod o bwyllgor cymdeithasol y clwb, mae'r neuadd wedi bod yn "hanfodol" dros y blynyddoedd.
"'Da ni'n rhoi llawer o weithgareddau ymlaen er mwyn casglu arian i'r clwb rygbi ac i gael y cyhoedd at ei gilydd i gael ychydig o hwyl.
"Yn bersonol, 'dwi'n teimlo os awn ni i Ysgol y Berwyn, ni fydd modd mynd i'r ysgol drwy'r amser i gael ymarferiadau.
"Mi fydd y gost o ddefnyddio'r neuadd yn yr ysgol hefyd yn rhy uchel i ni fel clwb."
'Trosi'r neuadd'
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd gofod pwrpasol ar gyfer y celfyddydau yn agor ar y campws dysgu newydd yn dref yn gynnar yn 2019.
Ond yn ôl Ms Thirsk fe ddylai'r cyngor "ystyried trosi'r neuadd i'r gymuned er mwyn ein galluogi i wneud pob math o bethau yno".
Mae Ms Thirsk hefyd yn pryderu na fydd y cyfleusterau ar gael drwy'r amser ar ôl symud i gampws yr ysgol.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r gwaith o ddatblygu'r gofod celfyddydol newydd bron a'i gwblhau.
"Bydd yn cynnwys neuadd ar gyfer cyngherddau neu berfformiadau sy'n dal mwy na 300 o bobl yn ogystal â chyfarpar i addasu'r neuadd i arddangos ffilmiau ar gyfer hyd at 120 o bobl - a hynny mewn lleoliad fydd yn cynnig cyfleusterau modern a chyfforddus.
"Mae cyflwr presennol Neuadd Buddug wedi dirywio'n eithriadol a byddai angen buddsoddiad sylweddol i'w chadw ar agor.
"Gyda llai o arian ar gael i gynghorau lleol gan y llywodraeth, nid yw hynny'n opsiwn i Gyngor Gwynedd a'r bwriad ydi i edrych i farchnata hen adeilad Neuadd Buddug ar y farchnad agored.
"Os oes unrhyw fudiad lleol efo diddordeb yn y ddarpariaeth newydd mae croeso iddynt gysylltu efo ni i drafod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018