Cyngor Gwynedd yn rhoi statws gymunedol i ysgol newydd Y Bala
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol gymunedol newydd yn agor ar safle Ysgol y Berwyn.
Cafodd cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd eu derbyn gan Gyngor Gwynedd yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth.
Dywedodd y cynghorydd Gareth Thomas y bydd dwy ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd yn cau er mwyn gallu agor y safle newydd.
Mae'r ysgol newydd, gwerth £10m, yn debygol o agor yn swyddogol ar 1 Medi 2019.
'Achosi ffrae'
Daw hyn yn dilyn gwrthwynebiad i'r penderfyniad gwreiddiol o roi statws eglwysig i'r ysgol newydd.
Roedd cynlluniau i agor ysgol â statws eglwysig wedi achosi ffrae yn lleol, gyda nifer yn galw am ddynodi'r ysgol fel un gymunedol.
Ym mis Mehefin 2017 fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd bleidleisio'n unfrydol dros dynnu'r statws eglwysig oddi ar yr ysgol.
Mae'r cynllun presennol yn gweld uno dwy o ysgolion cynradd y dref, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n ysgol Eglwysig - gydag ysgol uwchradd y dref.
Bydd y cynllun newydd yn gweld un campws mawr i blant 3-19 ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Mae'r gwaith adeiladu yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017