Arweinydd Llafur: Pedwar AC yn cefnogi Eluned Morgan

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Cynulliad

Mae Huw Irranca-Davies ac Alun Davies wedi tynnu eu henwau yn ôl yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru er mwyn cefnogi Eluned Morgan.

Mae'r ddau yn dweud y byddan nhw nawr yn rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch AC Canolbarth a Gorllewin Cymru i olynu Carwyn Jones.

Mae gan Ms Morgan gefnogaeth David Rees a Dawn Bowden hefyd, ond mae hi angen cefnogaeth un AC arall cyn bod modd iddi gael ei henw ar y papur pleidleisio.

Dau AC sydd wedi cael y gefnogaeth angenrheidiol i fod yn ymgeiswyr swyddogol am yr arweinyddiaeth hyd yn hyn - yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford a'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

Mae ACau angen cefnogaeth pum aelod arall i fod yn ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

'Ystod o ymgeiswyr'

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na fydd yn rhoi ei gefnogaeth i unrhyw ymgeisydd.

Mae Ms Morgan felly'n dibynnu ar un o gefnogwyr Mr Drakeford i droi at ei chefnogi hi er mwyn iddi gael ei henw ar y papur pleidleisio.

Mewn datganiad, dywedodd y pedwar AC sy'n cefnogi Ms Morgan eu bod yn gwneud hynny i annog "dadl iach", gyda "dewis o ran ymgeiswyr".

"Mae'n gyfrifoldeb arnom bod aelodaeth ein plaid yn gallu dewis o ystod o ymgeiswyr sy'n adlewyrchu natur amrywiol y cymunedau ry'n ni'n eu cynrychioli," meddai'r datganiad.

Mae nifer o ffigyrau amlwg o fewn y Blaid Lafur wedi dweud y dylai fod menyw yn rhan o'r ras am yr arweinyddiaeth.

Un o'r rheiny yw Mr Jones, sydd wedi dweud "ni fyddai'n edrych yn dda" pe na bai menyw ar y rhestr.

Bydd enillydd y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.