Ffrae masnachwyr gyda'r cyngor am gyflwr Tŷ Pawb

  • Cyhoeddwyd
Ty Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Fe gostiodd datblygiad Tŷ Pawb yn Wrecsam £4.5m

Mae perchnogion busnes yn Wrecsam yn galw ar y cyngor i ddatrys "hunllef iechyd a diogelwch" marchnad newydd y dref.

Mae 10 masnachwr yng nghanolfan Tŷ Pawb wedi ysgrifennu at arweinydd y cyngor yn honni bod eu busnesau'n dioddef am nad yw'r gwaith adeiladu wedi ei gwblhau.

Yn dilyn buddsoddiad o £4.5m, fe ailagorodd y ganolfan - oedd yn cael ei hadnabod gynt fel Marchnad y Bobl - ym mis Ebrill.

Fodd bynnag, bum mis ers ei hagor, mae'r awdurdod wedi bygwth troi rhai o'r perchnogion busnes allan, onibai eu bod yn arwyddo cytundebau erbyn 17:00 ddydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ganolfan ei hagor ym mis Ebrill 2018

Mae'r masnachwyr yn dweud y byddan nhw ond yn fodlon arwyddo os ydyn nhw'n cael gostyngiad i'w rhent am y cyfnod rhwng Ebrill a Gorffennaf, pan honnwyd fod cwsmeriaid wedi gorfod gadael y ganolfan o ganlyniad i sŵn drilio a llwch.

Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at broblemau sy'n parhau, gan gynnwys toiledau dynion anorffenedig, nam ar rai o'r drysau, ac achosion pan fo'r ganolfan wedi ei gadael heb ei chloi.

Yn ogystal, maen nhw'n dweud iddyn nhw golli busnes yn y misoedd cyntaf oherwydd nad oedd yna gysylltiad â'r we, a bod gwaith hysbysebu'r ganolfan wedi bod yn warthus.

"Dydyn ni ddim yn ceisio twyllo'r Cyngor o'u rhent", meddai'r masnachwyr, "ond fel grŵp, ry'n ni'n teimlo'n bod wedi colli arian oherwydd y modd mae Tŷ Pawb wedi ei hyrwyddo, a sut y mae'n cael ei reoli nawr."

Maen nhw hefyd yn rhybuddio na fyddai taflu masnachwyr allan o'r ganolfan yn gwneud unrhyw les i'r ganolfan.

Ymwybodol o bryderon

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam fod yr awdurdod yn ymwybodol o bryderon masnachwyr ac y byddan nhw'n ymateb maes o law.

"Dydyn ni ddim mewn sefyllfa i drafod rhent ein tenantiaid - fodd bynnag, cafodd gostyngiad ei gynnig ar gyfer y flwyddyn gyntaf, fel cydnabyddiaeth o'r ffaith fod hon yn fenter newydd sbon fyddai'n cymryd peth amser i setlo, a sicrhau bod ein holl wasanaethau'n gweithio a bod nifer yr ymwelwyr yn cynyddu.

"Rydyn ni nawr yn gweld nifer cynyddol o ddigwyddiadau ac ymweliadau, yn ogystal â mwy o farchnata a diddordeb yn y gofod sydd ar gael i'w rentu.

"Byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i gefnogi'n masnachwyr, i sicrhau bod pawb sy'n gweithio yma yn elwa o'r ymweliadau cynyddol."