Chwaraewr rygbi Samoa'n pledio'n euog i ymosod ar Gymro
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwaraewr rygbi o Samoa, Gordon Langkilde, wedi pledio yn euog i gyhuddiadau o ymosod yn dilyn ffrwgwd gydag aelodau tîm 7-bob-ochr Cymru.
Digwyddodd y ffrwgwd yn y twnnel yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Samoa ar 22 Gorffennaf yng Nghwpan Rygbi 7-Bob-Ochr y Byd yn yr Unol Daleithiau.
Fe wnaeth Tom Williams dorri esgyrn yn ei wyneb yn y digwyddiad, tra bod Luke Morgan a Ben Roach hefyd wedi dioddef anafiadau i'r wyneb.
Mae Langkilde, 22 oed, wedi cael ei orfodi i dynnu 'nol o chwarae rygbi am flwyddyn, yn ogystal â thalu iawndal i'r dioddefwyr.
Bydd raid iddo hefyd ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro, cwblhau 100 awr o wasanaeth i'r gymuned, cyfrannu £1,900 i elusen a chwblhau cwrs rheoli dicter.
Mae World Rugby, y corff sydd yn rheoli'r gamp, wedi gwahardd Langkilde rhag chwarae tra'u bod nhw yn cwblhau ymchwiliad eu hunain.
Plediodd Langkilde yn euog i ddau achos o ymosod gyda nerth sy'n debygol o achosi anaf mawr, ac mae nawr yn rhydd i adael yr Unol Dalaethiau.
Roedd y chwaraewr o Samoa wedi gwadu cyhuddiadau o ymosod ym mis Gorffennaf, pan benderfynodd yr awdurdodau y bydd yn rhaid i Mr Langkilde aros yn UDA tan yr achos cyfreithiol.
Nid oes unrhyw chwaraewyr o Gymru yn wynebu cosbau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2018