Heddlu sy'n chwilio am athrawes yn canfod corff ar draeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am athrawes o Abertawe sydd wedi bod ar goll o'i chartref wedi dod o hyd i gorff ar benrhyn Gŵyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru iddynt gael eu galw i Fae Caswell am tua 16:00 ddydd Iau gan aelod o'r cyhoedd.
Ychwanegodd nad oedd y corff wedi ei adnabod yn ffurfiol, ond eu bod wedi rhoi gwybod i deulu Siwan Ellis.
Mae Ms Ellis, 53 oed a chyn-athrawes yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgol Bishop Gore, wedi bod ar goll ers dydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018