Tŷ Pawb: Cyngor yn gobeithio dod a'r anghydfod i ben

  • Cyhoeddwyd
Ty Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Fe gostiodd datblygiad Tŷ Pawb yn Wrecsam £4.5m

Mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio dod ag anghydfod ynglŷn â chytundebau masnachwyr mewn marchnad newydd i ben.

Yn gynharach yr wythnos fe ysgrifennodd 10 o fasnachwyr yng nghanolfan Tŷ Pawb e-bost at arweinydd y cyngor, ar ôl i'r awdurdod fygwth troi rhai o'r perchnogion busnes allan, oni bai eu bod yn arwyddo cytundebau erbyn 17:00 ddydd Mercher.

Fe gaeodd y masnachwyr eu drysau yn gynnar ar brynhawn dydd Mercher er mwyn cynnal trafodaethau gyda staff y cyngor.

Yn dilyn y cyfarfod, y gred yw bod yr awdurdod wedi ysgrifennu at y perchnogion busnes ddydd Gwener yn cynnig rhywfaint o ostyngiad yn ogystal â delio a rhai o'r pryderon a gafodd eu lleisio.

Yn yr e-bost gwreiddiol, roedd y masnachwyr yn honni bod eu busnesau'n dioddef am nad yw'r gwaith adeiladu wedi ei gwblhau.

Roedden nhw hefyd yn tynnu sylw at broblemau sy'n parhau, gan gynnwys toiledau dynion anorffenedig, nam ar rai o'r drysau, ac achosion pan fo'r ganolfan wedi ei gadael heb ei chloi.

Ychwanegodd y masnachwyr eu bod nhw ond yn fodlon arwyddo cytundeb os ydyn nhw'n cael gostyngiad i'w rhent.

Gwneud cynnydd

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Ar ôl cynnal cyfarfod gyda'r masnachwyr rydyn ni'n teimlo bod cynnydd yn cael ei wneud."

"Rydyn ni wedi cysylltu â nhw er mwyn eu diweddaru ar y sefyllfa bresennol, ac rydyn ni'n hyderus y bydd mwyafrif y masnachwyr yn teimlo bod ein cynnig yn un teg."

Roedd yr e-bost gan fasnachwyr hefyd yn nodi fod pob un o'r deg masnachwr wedi gwrthod arwyddo cytundeb, neu yn parhau mewn trafodaethau â'r awdurdod.

Ond, nodir hefyd eu bod nhw'n barod i drafod y materion, ac arwyddo trwydded newydd erbyn dechrau Hydref os gaiff y problemau eu datrys.