Carwyn Jones 'yn barod' i enwebu Morgan fel arweinydd

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Carwyn Jones yn barod i enwebu Eluned Morgan fel arweinydd Llafur Cymru er mwyn sicrhau fod dynes ar y rhestr fer derfynol.

Yn ystod ei araith mewn cynhadledd i'r Blaid Lafur, roedd yn annog aelodau i anghofio am ddadleuon mewnol.

Ar ôl anghytundeb diweddar ymysg aelodau am wrth-Semitiaeth a rheolau'r blaid, dywedodd nad yw'r blaid Lafur yn gallu parhau gyda'r holl "ymyriadau dibwys" os am arwain yn San Steffan.

"Er mwyn gwella'r wlad, mae'n rhaid i ni wella ein hunain gyntaf", meddai'r Prif Weinidog wrth dorf y gynhadledd yn Lerpwl.

Mae Mr Jones wedi dweud yn y gorffennol na fydd yn datgan cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan un enwebiad yn brin o'r nod ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd mae gan Ms Morgan bedair pleidlais, ond mae angen un arall er mwyn sicrhau ei lle ar y papur pleidleisio.

Dim ond Vaughan Gething a Mark Drakeford sydd wedi croesi'r trothwy o gael pum pleidlais gan bum AC gwahanol hyd yma.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn barod i enwebu Ms Morgan "os oes angen", er mwyn sicrhau fod dynes yn y ras.

'Wrth fy modd'

Meddai Ms Morgan ei bod hi "wrth ei bodd" fod Mr Jones wedi "deall fod aelodau'r blaid eisiau gweld dewis eang o ymgeiswyr ar gyfer yr arweinyddiaeth".

"Mae hyn yn fuddugoliaeth i aelodau'r blaid ar lawr gwlad a dwi'n siomedig ei bod hi wedi cymryd cyhyd."

Ychwanegodd: "Dwi wedi siomi mai'r ffaith mai dynes ydw i sydd wedi llwyddo i sicrhau fy lle ar y papur pleidleisio.

"Hoffwn feddwl y byddai fy mhrofiad yn Senedd Ewrop, a fyddai'n ddefnyddiol iawn ar gyfer Brexit, a'm mhrofiad ar y fainc flaen yn Nhŷ'r Arglwyddi gyda Jeremy Corbyn, yn golygu y gallwn i gynnig rhywbeth gwahanol."

Wrth ymateb ar wefan cymdeithasol, dywedodd Ms Morgan hefyd ei bod hi'n diolch i'r Prif Weinidog am y cynnig, gan ei ddisgrifio fel "gwir arweinydd ffeministaidd".

Dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf am groesawu Eluned Morgan i'r ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid Lafur yma yng Nghymru, a'i llongyfarch hi ar sicrhau'r enwebiadau sydd eu hangen i sefyll.

"Nawr rydym yn mynd i'r ornest go iawn, gornest sydd ddim yn ornest o ran personoliaeth, ond o syniadau gwleidyddol gwahanol.

"Dyna pam rydw i'n sefyll yn yr etholiad."