National Theatre Wales i drafod pryderon gyda dramodwyr

  • Cyhoeddwyd
national theatre walesFfynhonnell y llun, National Theatre Wales

Mae cadeirydd National Theatre Wales (NTW) wedi cynnig i gyfarfod dramodwyr o fewn y pythefnos nesaf i drafod pryderon wnaethon nhw godi mewn llythyr agored ynghylch cynlluniau'r cwmni.

Roedd Clive Jones yn ymateb i gyhuddiadau gan 40 o ddramodwyr fod y cwmni'n "tanseilio artistiaid Cymreig a theatr Gymreig wrth ddewis peidio gweithio gydag artistiaid Cymreig".

Dywed Mr Jones fod ymddiriedolwyr y cwmni "yn drist iawn" i ddarllen cynnwys y llythyr, a'u bod yn "croesawu trafodaeth onest ag agored ar y materion a godwyd".

Mae llofnodwyr y llythyr wedi croesawu'r ymateb ac yn trefnu dyddiad ar gyfer cyfarfod.

Roedd Gary Owen, Caryl Lewis a Sharon Morgan ymhlith y llofnodwyr, oedd yn galw am newidiadau o fewn NTW, gan gynnwys sicrhau fod gan bob cynhyrchiad "brif artist sydd o Gymru neu sydd yn byw yma".

Roedden nhw hefyd yn poeni "ynghlŷn â phrinder cynyrchiadau theatrig NTW ers ymadawiad [y cyfarwyddwr artistig blaenorol] John McGrath", ac yn honni mai ond dau gynhyrchiad sydd wedi'u cadarnhau yn gyhoeddus ar gyfer gweddill 2018 a 2019.

Ffynhonnell y llun, Carlos Reyes-Manzo
Disgrifiad o’r llun,

Clive Jones yw cadeirydd National Theatre Wales ers 2016

Yn eu hymateb gwreiddiol i'r llythyr agored, dywedodd NTW bod "llawer o gynnwys y llythyr yn ffeithiol anghywir", ond bod eu drws "ar agor fel erioed i artistiaid", a bod eu cyfarwyddwr artistig eisoes wedi trefnu i gwrdd â llawer o'r llofnodwyr ym mis Tachwedd ac yn fodlon i hynny ddigwydd yn gynt.

Mewn llythyr ddydd Llun yn awgrymu dyddiadau posib ar gyfer cyfarfod o fewn y pythefnos nesaf, dywedodd Mr Jones: "Rydym yn sicr yn croesawu trafodaeth onest ac agored ar y materion a godwyd ac felly hoffem wahodd y llofnodwyr.... i'w trafod gyda minnau ac aelodau eraill y bwrdd, y tîm gweithredol a'r uwch dîm rheoli."

Ychwanegodd bod yr ymddiriedolwyr eisiau rhoi sicrwydd bod y "Bwrdd a rhanddeiliaid NTW yn craffu'n drylwyr ar y cwmni".

Mewn ymateb i gynnig Mr Jones, mae'r dramodydd Lisa Parry wedi datgan ar ei chyfrif Twitter: "Mae llofnodwyr y llythyr ar hyn o bryd yn trefnu'r dyddiad gorau ar gyfer y cyfarfod yma.

"Rydym wirioneddol yn croesawu'r cam yma gan y bwrdd."