Amseroedd aros yn annerbyniol, medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Wrecsam Maelor

Mae amseroedd aros unedau brys mewn dau o ysbytai'r gogledd yn "annerbyniol" ac mae'n rhaid cael ateb i'r broblem, meddai'r prif weinidog Carwyn Jones.

Daw ei sylwadau yn y Senedd ar ôl i ysbytai Glan Clwyd, Bodelwyddan, a Wrecsam Maelor gyhoeddi ffigyrau gwael ar gyfer mis Awst.

Fe wnaeth arweinydd newydd y grŵp Ceidwadol Paul Davies gyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu cleifion yn y gogledd ac o "anallu difrifol".

Ond dywedodd Mr Jones mai polisïau llymdra San Steffan oedd ar fai, a bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth.

Fe gafodd llai na hanner (49.7%) o gleifion uned frys Wrecsam Maelor eu gweld o fewn pedair awr.

Y targed yw 95%. Hwn yw'r ffigwr gwaethaf erioed ar gyfer unrhyw ysbyty yng Nghymru.

Y ffigwr ar gyfer Glan Clwyd yn Sir Ddinbych oedd 52.9%.

'Cywilydd?'

Yn ystod sesiwn yn y Senedd fe wnaeth Mr Davies ofyn i Carwyn Jones a oedd ganddo gywilydd o'r perfformiad.

"Mae'r bwrdd iechyd yma wedi bod o dan ofal uniongyrchol Llywodraeth Cymru am bron i dair blynedd a hanner," meddai Mr Davies, wrth gyfeirio at y mesurau arbennig sydd mewn grym ar gyfer Betsi Cadwaladr.

"Mae'r rhain yn ystadegau dychrynllyd. Rydych yn amlwg yn methu (o ran gwasanaeth) i bobl y gogledd."

Dywedodd Mr Jones fod perfformiad y ddau ysbyty yn annerbyniol.

"Mae'r Bwrdd, gyda chymorth o £1.5m gan Llywodraeth Cymru, wedi gwneud trefniadau i dargedu gwelliannau o ran y drefn gofal yn y gogledd.

"Rydym hefyd wedi darparu £6.8m yn gynharach eleni i gryfhau perfformiad y Bwrdd yn y tri phrif ysbyty yn y gogledd."

Gofynnodd a allai Mr Davies "ddweud nad oes gan lymdra ddim i wneud a hyn".