Ysbyty Maelor yn methu targedau adran frys pedair awr

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 49.7% o'r cleifion gafodd eu trin, trosglwyddo neu ryddhau o'r adran frys yn Ysbyty Maelor, Wrecsam

Mae llai na hanner y cleifion sy'n mynychu adran frys Ysbyty Maelor yn Wrecsam yn cael ei gweld o fewn yr amser targed o bedair awr.

Dim ond 49.7% o'r cleifion gafodd eu trin, trosglwyddo neu ryddhau o'r adran frys - dyma'r perfformiad misol gwaethaf yn hanes unrhyw ysbyty yng Nghymru.

Fe welodd Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gwymp ym mis Awst yn ogystal, gyda dim ond 52.9% claf yn cael eu gweld o fewn yr amser targed.

Mae'r ddau ysbyty wedi bod yn cael trafferth gyda'u targedau dros y blynyddoedd diwethaf.

'Hynod o brysur'

Ers mis Ionawr, adrannau brys Wrecsam a Glan Clwyd sydd wedi bod yn perfformio waethaf o ran cyrraedd targedau pedair awr, allan o'r holl ysbytai yng Nghymru.

Dros yr haf, fe rybuddiodd crwner fod yna risg i fywydau yn dilyn achos ble wnaeth claf orfod disgwyl pum awr mewn ambiwlans y tu allan i Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Daw'r ffigyrau diweddar i'r amlwg er i lai o gleifion brys cael eu gweld i'w gymharu â mis Awst 2017.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod yr uned frys yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn "hynod o brysur ar hyn o bryd."

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke:

Hyd y gwelaf i, dyma'r perfformiad gwaethaf ar gyfer unrhyw adran frys yng Nghymru ers dechrau cofnodion yn 2009.

Cofiwch, y targed yw na ddylai bron unrhyw glaf - 95% - orfod disgwyl mwy na phedair awr yn yr adran frys.

Mae'r ffigyrau yn dangos gostyngiad graddol yn ffigyrau allweddol yn adranau brys Ysbyty Maelor, Wrecsam a Glan Clwyd dros sawl blwyddyn.

Daw hyn dan oruchwyliaeth bwrdd iechyd sydd wedi bod dan y lach ers cael ei roi mewn mesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru dair blynedd yn ôl.

Mewn cymhariaeth, fe wnaeth bron i 90% o gleifion dreulio llai na pedair awr yn adran frys yr ysbytai berfformiodd orau, sef Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae gofyn i gleifion sydd ddim angen triniaeth frys i edrych am ffyrdd gwahanol o gael y wybodaeth gywir a'r gofal perthnasol gan wasanaethau'r GIG.

"Mae modd galw Galw Iechyd Cymru ar 0845 45 47 neu mynyddu clinic man anafiadau neu drwy ymweld â'ch fferyllfa leol," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais am ymateb penodol i berfformiad y ddau ysbyty.

Ar y cyfan, roedd gwelliant yn nhargedau adranau brys Cymru ym mis Awst yn yr amseroedd targed pedair awr a 12 awr.

Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Brenhinol Morgannwg berfformiodd orau o ran cyrraedd targedau'r adran frys

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwneud cynnydd mewn torri amseroedd aros ar gyfer gofal cofrestredig, gyda'r canran o gleifion sy'n disgwyl llai na 26 wythnos i gael eu cyfeirio at gael triniaeth yn ei safle gorau ers Gorffennaf 2013.

"Fe wnaeth nifer y cleifion sy'n disgwyl mwy na'r amser targed ar gyfer gwasanaethau therapi a diagnostig ostwng y mis hwn ac mae'r ddau yn llawer is na'r un cyfnod y llynedd.

"Ar gyfer achosion canser brys fe wnaeth 38% o gleifion ddechrau ar eu triniaeth o fewn yr amser darged i'w gymharu â'r cyfnod o 12 mis bum mlynedd yn ôl.

Ychwanegodd mai yn y tymor byr, fod y Llywodraeth wedi buddsoddi £30, i dorri amseroedd aros ymhellach, ac yn y tymor hir, sylwi'r angen i drawsnewid sut mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig.