Cynghrair Cenedlaethol Lloegr: Wrecsam 1-0 Barnet

  • Cyhoeddwyd
Stuart BeavonFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Stuart Beavon, sydd ar fenthyg o Coventry, sgoriodd unig gôl y gêm

Mae Wrecsam yn parhau yn ddiguro yn y Cae Ras y tymor hwn yn dilyn buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Barnet.

Roedd yr hanner cyntaf yn llawn rhwystredigaeth i'r tîm cartref, wrth iddynt greu sawl cyfle ond methu a chymryd mantais llawn.

Fe gymerodd hi 42 munud i'r Dreigiau fynd ar y blaen, wrth i Stuart Beavon ergydio'n gywir yn dilyn croesiad gan Chris Holroyd.

Adeiladu ar y gôl honno oedd y bwriad, ond yr un hen stori oedd hi yn yr ail hanner wrth i Wrecsam fethu ag ehangu'r fantais.

Mae Wrecsam yn gorffen y dydd yn y pedwerydd safle, pedwar pwynt tu ôl i Salford City sydd ar y brig.