Siop House of Fraser i aros ar agor, medd landlord
- Cyhoeddwyd
Bydd un o siopau adrannol mwyaf Cymru yn parhau ar agor, yn ôl landlord yr adeilad.
Roedd cangen House of Fraser yng Nghaerdydd wedi ei chynnwys ar restr o siopau i gau yn 2019, ond bellach mae perchennog newydd y cwmni, Mike Ashley, wedi dod i gytundeb gyda'r landlord.
Dywedodd Azeemeh Zaheer, pennaeth Naissance Capital Real Estate, fod cynlluniau i drawsnewid rhannau o hen siop Howell's yn westy yn dal dan ystyriaeth.
Ond dydy hi ddim yn gwybod faint o'r 342 o staff fydd yn parhau i weithio yno.
"Rydyn ni wedi cytuno ar drwydded gyda'r grŵp, sy'n beth da oherwydd fyddan ni ddim yn cau'r siop," meddai wrth BBC Radio Wales.
Dywedodd mai mater i reolwyr y siop yw penderfynu a fydd yr holl staff yn cadw eu swyddi, gan ychwanegu bod awydd gan y ddwy ochr "i gael ateb sy'n cadw'r swyddi a cheisio achub un o frandiau hanesyddol y DU sy'n bodoli ers 159 o flynyddoedd".
Dydy holl fanylion y cytundeb heb eu cyhoeddi ond fe fydd House of Fraser yn parhau i feddiannu'r adeilad cyfan am y tro.
Awgrymodd Ms Zaheer y gellid rhyddhau "rhannau o'r adeilad fesul cam". Mae nifer o westai mawr wedi dangos diddordeb yn y safle.
Dywedodd Ms Zaheer bod ei chwmni yn cadw meddwl agored ynghylch y posibilrwydd o gael cymysgedd o fusnesau yn yr adeilad yn y dyfodol.
Mae hynny, meddai, mewn ymateb i newidiadau yn y sector manwerthu, a'r angen i wneud defnydd llawn o adeiladau canol dinasoedd.
"Rydyn ni'n edrych i wneud rhywbeth gyda'r safle... sy'n ei wneud yn fwy o atyniad," meddai.
'Diolch am helpu achub swyddi'
Cafodd y siop yng Nghaerdydd ei sefydlu gan James Howell yn 1869, a'i phrynu gan House of Fraser yn 1972.
Roedd ymhlith 31 o safleoedd ar draws y DU oedd wedi eu clustnodi i gau cyn i gwmni Mike Ashley, Sports Direct, brynu grŵp House of Fraser.
Mae House of Fraser Cwmbrân yn dal ar y rhestr o siopau i gau. Mae 96 o bobl yn cael eu cyflogi yno.
Mae Mr Ashley wedi beirniadu landlordiaid am fod yn "farus" wrth drafod telerau newydd cytundebau'r siopau sydd wedi eu clustnodi i gau, ond mae wedi diolch "y landlordiaid hynny sydd wedi ein helpu i ddiogelu tua 3,500 o swyddi yn y siopau rydym wedi eu hachub hyd yma".
"Rwy'n galw ar bawb i dynnu at ei gilydd, gan gynnwys landlordiaid ac awdurdodau lleol, i helpu achub cyn gymaint o siopau a swyddi House of Fraser â phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018