Teyrngedau i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys ddydd Sul.
Roedd Ryan Roberts, o bentre' Llanwddyn, yn 18 oed.
Dywedodd yr heddlu fod Mr Roberts yn gyrru ei ffrindiau adref ar ôl bod allan yng Nghroesoswallt.
"Roedd yn dychwelyd i Lyn Efyrnwy yn yr oriau mân pan wnaeth ei gar wyro oddi ar y ffordd gan daro coeden llai na milltir o'i gartref," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Yn ôl y teulu, roedd meddwl y byd o Mr Roberts fel mab, ŵyr, brawd a chariad.
Nododd y teulu hefyd fod tua 130 o bobl wedi mynychu seremoni goffa anffurfiol er cof amdano.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2018