Arbenigwyr yn galw am newid strwythur ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Athro

Mae arbenigwyr wedi galw am ailystyried y ffordd mae ysgolion Cymru yn gweithio, gan gynnwys trefn gwyliau ysgol.

Cafodd pwerau dros benderfynu ar dâl ac amodau athrawon eu trosglwyddo'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru o San Steffan ddydd Sul.

Mae'r Athro Mick Waters yn cadeirio panel annibynnol sydd wedi bod yn ystyried sut y dylai'r system weithio yng Nghymru.

Yn ôl y panel dylai'r cyflogau aros ar yr un lefel â rhai Lloegr i ddechrau.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am:

  • 100 o athrawon i gael eu penodi fel arbenigwyr mewn meysydd gwahanol o ddysgu ac addysgu.

  • Ystyried cyflwyno trefn 'School Leadership for Wales', lle byddai prifathrawon yn cael eu gyrru i ysgolion lle gall eu profiad a'u harbenigedd fod o werth.

  • Gwell eglurder a thryloywder ynglŷn â thâl, gyda llai o ddefnydd o gymhellion ariannol i ddenu athrawon tuag at bynciau penodol.

  • Cael gwared â'r rhyddid sydd gan lywodraethwyr i gynyddu tâl prifathrawon.

Dyweda'r adroddiad fod angen hybu a dathlu addysgu "ar frys" er mwyn brwydro yn erbyn y ddelwedd o'r swydd fel "llafurwaith di-wobr, diddiwedd,".

Dylai'r fframwaith tâl ac amodau newydd adlewyrchu proffesiynoldeb cynyddol ymysg athrawon, yn ôl yr adroddiad, yn ogystal â chynnig mwy o ryddid a chyfrifoldeb i athrawon unigol.

Angen addasu

Un o'r prif bethau sy'n cael ei amlygu yn yr adroddiad yw'r pryderon am bwysau gwaith athrawon.

Mae'r adroddiad yn galw am sefydlu Comisiwn, gan nodi mai'r unig ffordd i ymdrin â'r broblem yn iawn, yw drwy edrych ar strwythur ehangach ysgolion.

"Mae'r ffordd y mae ein hysgolion yn gweithio - y trefniadau, y patrymau a'r systemau - wedi aros mwy neu lai'r un peth ers i addysg orfodol gael ei chyflwyno yn oes y ffatrïoedd, pan roedd addysg yn adlewyrchu'r ffordd o fyw ar y pryd," meddai'r panel.

Ychwanegodd y gallai Comisiwn i ailedrych ar ysgolion Cymru ystyried trefn y diwrnod ysgol arferol, y tymhorau a'r gwyliau a fyddai o bosib yn arwain at newidiadau sy'n cyd-fynd yn well â bywyd a gwaith modern.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud y bydd hi'n ystyried yr awgrymiadau yn ofalus.

Bydd gweinidogion Cymru yn gosod tâl athrawon am y tro cyntaf ym mis Medi 2019.