San Steffan i dalu codiad cyflog athrawon
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £23.5m yn ychwanegol yn dilyn penderfyniad adran addysg Llywodraeth y DU i roi codiad cyflog i athrawon yng Nghymru a Lloegr.
Daeth cadarnhad ddydd Iau gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £8.7m yn 2018/19 a £14.8 yn 2019/20 sy'n cyfateb i'r gost o gynyddu cyflogau athrawon.
Mewn achos sy'n unigryw yn y setliad datganoli, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dalu'r arian er mai penderfyniad San Steffan yw cynyddu cyflogau a thelerau athrawon ar hyn o bryd.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi honni y byddai'r codiad cyflog yn arwain at lai o athrawon a llai o arian ar gyfer ysgolion oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi cyllid ychwanegol.
Yn ystod sesiwn wythnosol holi'r Prif Weinidog ddydd Mercher fe ofynnodd AS Plaid Cymru, Ben Lake a fyddai arian yn cael ei roi ar gyfer Cymru, ac fe atebodd Mrs May: "Bydd y Trysorlys yn amlinellu hynny yn fuan."
"Rwy'n gobeithio bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i geisio denu a chadw mwy o athrawon yng Nghymru," meddai Mr Cairns.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb o osod cyflogau athrawon ym mis Hydref 2018.
Bryd hynny fe fydd gan Lywodraeth Cymru'r grym i benderfynu cyflogau ac amodau cyflog athrawon ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2019/20 a thu hwnt.
Effaith ar y Gyllideb?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth yr ysgrifennydd addysg a'r ysgrifennydd cyllid ysgrifennu dros yr haf y dylai'r cyhoeddiad ym mis Gorffennaf gael ei ariannu'n llawn.
"Rydym felly'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb ac wedi ariannu'r codiad cyflog angenrheidiol i athrawon yng Nghymru.
"Nid yw'r cyfrifoldeb dros dâl a thelerau athrawon wedi'i ddatganoli i Gymru ac mae'n parhau dan gyfrifoldeb yr adran addysg.
"Fe fyddwn nawr yn ystyried sut bydd yr arian yma yn effeithio ar ddrafft y gyllideb fydd yn cael ei gyhoeddi ar 2 Hydref," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018