Beirniadu ymateb cyngor i achos pla pryfed Llanelli
- Cyhoeddwyd
Daeth protestwyr at ei gilydd fore Llun i leisio'u barn am ymateb cyngor sir i achos o bla pryfed yn Llanelli dros yr haf.
Fe wnaeth trigolion gyfarfod tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Gâr i drafod ymateb yr awdurdod i'r pla.
Cafodd cannoedd o bryfed tŷ cyffredin eu canfod mewn rhai cartrefi.
Ar y pryd, dywedodd nifer o bobl eu bod wedi dioddef o salwch a symptomau dolur rhydd ers i'r pryfed gyrraedd ym mis Mehefin.
Dywedodd un o'r protestwyr, Amanda Carter, nad oedd ymateb yr awdurdod lleol yn ddigon da a bod rhai yn y gymuned yn ofni y byddai'r un peth yn digwydd eto yn y gwanwyn.
Yn ôl Cyngor Sir Gâr, fe wnaeth eu tîm Iechyd Amgylcheddol popeth y gallen nhw ar y pryd, gyda swyddogion yn gweithio'n "ddiflino, ddydd a nos".
Cafodd 300 o ymweliadau eu gwneud i dai yn yr ardal, meddai'r cynghorydd Phillip Hughes, gyda'r cyngor yn gwario £15,000 i £20,000 ar y digwyddiad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i mewn i ffatri brosesu gwastraff metal, sy'n cael ei amau o fod yn gyfrifol am y pla.
'Gofid a straen'
Yn ôl cynghorydd tref o Lanelli, mae'r pla pryfed yma wedi achosi "gymaint o ofid, rhwystredigaeth, straen a chostau i bawb yn ein hardal ni".
Dywedodd Sean Rees bod yn rhaid i gyfathrebu wella gan y cyngor sir, gan ychwanegu y dylai'r cyngor ymddiheuro i drigolion am roi "gwybodaeth anghywir" iddyn nhw.
"Rydym ni i gyd yn gwybod ein bod ni'n byw mewn cyfnod o lymder ond mae'n rhaid i iechyd y cyhoedd fod yn flaenoriaeth wastad," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018