Llofruddiaeth maes carafanau: Arestio pumed person
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio pumed person mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 54 oed mewn parc carafanau yn Sir Gaerfyrddin.
Mae dyn 52 oed yn cael ei holi yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio yn ardal Casnewydd ddydd Mercher ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr wedi marwolaeth Simon Clark ym Mhentywyn ddydd Gwener.
Ond mae'r heddlu'n dal yn chwilio am ddyn 52 oed arall, Steve Baxter, sydd hefyd yn cael ei adnabod dan yr enwau Steve Rowley, Wayne Tidy a William Tidy.
Mae arweinydd yr ymchwiliad, y Prif Arolygydd Paul Jones wedi dweud fod Steve Baxter "yn cael ei ystyried yn unigolyn peryglus" a'u bod yn awyddus i ddod o hyd iddo gynted â phosib.
Dywed yr heddlu fod Mr Baxter wedi ei weld ddiwethaf yn ardal Pen-y-bont ond bod ganddo gysylltiadau yng ngorllewin Cymru, de Cymru a de orllewin Lloegr.
Y rhybudd i'r cyhoedd yw i beidio a mynd yn agos ato, ond i ffonio 999 gynted â phosib.
Mae tri pherson arall yn dal yn cael eu holi yn y ddalfa, gan gynnwys dyn 40 oed sydd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae dwy fenyw, un yn 52 oed a'r llall yn 46 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr. Mae dyn 48 oed wedi ei arestio a'i ryddhau.
Ddydd Mercher fe fu plismyn yn archwilio adeiladau yn ardal Castell-nedd a'r Tyllgoed yng Nghaerdydd fel rhan o'r ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018