Llofruddiaeth Abertawe: Tystiolaeth DNA ar esgid

  • Cyhoeddwyd
John Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Cafodd DNA pensiynwr a gafodd ei ladd ei ddarganfod ar esgid un o'r tri sydd wedi eu cyhuddo o'i lofruddiaeth, mae llys wedi clywed.

Cafodd John Williams, oedd yn 67 oed ac yn cael ei adnabod fel Jack, ei ganfod yn farw yn ardal Bontymaen o Abertawe ym mis Mawrth.

Dywedodd gwyddonydd fforensig, Kim Edwards, wrth Lys y Goron Abertawe bod y DNA mwy na thebyg wedi dod o waed Mr Williams, "neu o rywbeth arall, fel croen".

Mae Jonathan Donne, 42 oed, ei gyn-gariad Gemma Owen, 31 oed, a'u cymydog Simon Cairns, 46 oed, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a lladrad.

Dywedodd Ms Edwards, sy'n dyst arbenigol yn yr achos, bod ei hadran wedi archwilio rhaff las i weld "pwy allai fod wedi ei chlymu o amgylch gaddyrnau Mr Williams".

Clywodd y llys bod olion o DNA Mr Donne ar sawl man ar y rhaff.

Olion gwaed

Yn ogystal, dywedodd Ms Edwards bod olion o waed Mr Williams mewn car a oedd yn berchen i Mr Cairns, ac na fyddai'n weledol oni bai am waith profi cemegol.

Roedd DNA Mr Donne a Ms Owen hefyd ar waled Mr Williams, a DNA Mr Donne ar y trowsus roedd Mr Williams yn eu gwisgo pan fu farw.

Cafodd y rheithgor weld cynllun o lawr gwaelod cartref Mr Williams a chlywed bod olion gwaed o amgylch y drws ffrynt yn dangos fod y drws wedi bod ar agor pan ddigwyddodd y "staenio" dan sylw.

Dywedodd Ms Edwards bod "staen gwaed dwfn" wedi treiddio i'r carped lle fyddai pen Mr Williams yn gorwedd pan gafodd ei ddarganfod.

Roedd staeniau y tu ôl i'w gorff wedi dangos fod Mr Williams, neu rywun arall â'i waed arnynt, wedi bod "yn symud o amgylch yr ardal".

Doedd yna ddim olion gwaed yn y tŷ tu hwnt i'r ystafell gyntaf.

Mae Mr Donne, Ms Owen a Mr Cairns yn gwadu llofruddio a lladrata, ac mae'r achos yn parhau.