Lladradau Ceredigion: Annog busnesau i fod yn wyliadwrus

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae busnesau yn cael eu hannog i ailedrych ar eu mesurau diogelwch yn dilyn lladradau yn ardaloedd Felin-fach ac Aberaeron.

Bu tri lladrad yn yr ardal dros nos ar y 1 Hydref a'r 2 Hydref, a chafodd beic cwad gwerth £3,000 a £1,850 o arian parod ei ddwyn.

Dywedodd Christina Fraser, sy'n arolygydd heddlu ar gyfer ardal Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan: "Yn dilyn nifer o ladradau yn ardal Felin-fach ac Aberaeron, rwy'n gofyn i fusnesau lleol ailedrych ar eu mesurau diogelwch.

"Er bod cyfnod prysur yr haf wedi dod i ben, mae angen i ni barhau'n wyliadwrus."

Cyngor

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori unigolion a busnesau i:

  • Wirio y mesurau diogelwch ar eu safle.

  • Sicrhau nad yw eitemau gwerthfawr yn weladwy.

  • Osgoi cadw arian parod ar y safle dros nos.

  • Wneud yn siŵr bod camerâu cylch cyfyng yn gweithio ac yn recordio.

  • Brofi larymau yn gyson.

Bydd yr heddlu hefyd yn ymweld â busnesau a allai gael eu targedu i gynnig cyngor yn ystod y diwrnodau ac wythnosau nesaf.

Mae'r ymchwiliad i'r tri lladrad yn dal i fynd yn ei flaen, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog unrhyw un ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.