Ceidwadwyr wedi trafod ymddygiad Aelod Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Mohammad Asghar

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi trafod ymddygiad un o'u haelodau cynulliad gyda'r unigolyn.

Gofynnodd BBC Cymru i'r Ceidwadwyr Cymreig a oedd Mohammad Asghar AC wedi wynebu cwestiynau gan y cyn-arweinydd Andrew RT Davies AC neu arweinydd presennol Paul Davies AC am ei ymddygiad.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr fod "mater ymddygiad cyffredinol" wedi codi gyda Mr Asghar yn y gorffennol.

Mewn ymateb dywedodd Mr Asghar nad oedd neb wedi siarad ag ef ac nad yw'n ymwybodol bod unrhyw gŵyn wedi'i wneud ynghylch ei ymddygiad.

Mae Mr Asghar yn gwadu unrhyw honiad iddo ymddwyn yn amhriodol.

Trin pawb 'ag urddas a pharch'

Ym mis Mai pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid cymeradwyo Polisi Urddas a Pharch newydd. Mae'n tynnu sylw at y safonau uchel o ymddygiad y gall pawb sydd mewn cysylltiad ag ACau eu disgwyl.

Mae aelodau cynulliad wedi mynychu sesiynau hyfforddi i ymgyfarwyddo â'r holl faterion perthnasol sy'n ymwneud â'r polisi newydd.

Dywedwyd wrth y rhaglen Newyddion9 fod aelod Dwyrain De Cymru "wedi mynegi ei anghrediniaeth yn y sesiwn a dderbyniodd, gan ddweud wrth yr unigolyn a gynhaliodd y sesiwn ei fod yn 'siarad cachu' yn ystod ei gyflwyniad."

Wrth ymateb i'r honiad dywedodd Mr Asghar: "Gwnaethpwyd y sylw hwn yn ystod cyfarfod grŵp caeedig ac nid oedd mewn perthynas â'r sesiwn hyfforddi o gwbl.

"Rwyf bob amser wedi trin dynion, menywod a phlant ag urddas a pharch ac yn dymuno i'r BBC fy nhrin i â'r un urddas a pharch."

'Deliwyd â'r mater'

Cafodd Mohammad Asghar ei ethol yn gyntaf yn 2007 fel AC Plaid Cymru.

Croesodd lawr y cynulliad i ymuno â'r Ceidwadwyr yn 2009 ar ôl honni ei fod "yn teimlo nad oedd yn cyd-fynd â barn a pholisïau Plaid Cymru".

Anfonwyd cwestiynau manwl gan BBC Cymru i Mr Asghar a'r Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Codwyd mater ymddygiad cyffredinol yn y gorffennol a deliwyd â'r mater yn syth.

"Bydd unrhyw gyhuddiadau eraill yn cael eu trin yn sensitif a phriodol."