‘Canu’r gloch’ ar y cyfnod ‘anoddaf un’ i deulu ifanc o Lŷn
- Cyhoeddwyd
Roedd Gwennan Jones a'i phartner Ilid Japheth ar fin geni eu trydydd mab yn Ysbyty Gwynedd pan gawson nhw'r newyddion ofnadwy bod gan eu mab hynaf, Caio, ganser.
Roedd yn rhaid iddo fynd i gael triniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar unwaith, meddai'r meddygon.
Roedd yn ddechrau corwynt o chwe mis i Gwennan ac Ilid o Bencaenewydd ym Mhenrhyn Llŷn sy'n rhieni i Caio, 5, Nedw, 2, a bellach Math, sy'n wyth mis.
"Roeddan ni yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn barod pan ges i alwad ffôn gan y meddyg teulu yn deud bod rhaid i Caio ddod i fewn yn syth," meddai Gwennan.
"Roedd y profion gwaed o'r diwrnod cynt yn dangos bod 'na broblem efo'r celloedd gwyn.
"Mi wnaeth Nain a Taid Caio ei ddanfon i Fangor a ges i ddod lawr o'r labour ward i lawr i ward y plant at Caio.
"Roedd fy mam, mam llid a fy llys-fam, y dair ohonyn nhw yma efo ni, a 'nathon nhw hel Caio i'r stafell chwarae efo un o'r nyrsys a gawson ni fynd i'r stafell fach a chael y newyddion fod gan Caio lewcemia."
Aeth Ilid gyda Caio yn syth mewn ambiwlans i Alder Hey tra roedd rhaid i Gwennan, wrth gwrs, aros i eni'r babi.
"Roedden nhw'n cyrraedd Lerpwl ychydig wedi hanner nos ac ro'n i'n geni ychydig wedi dau," meddai.
Roedd gorfod gweld ei mab pump oed yn mynd am driniaeth mor ddifrifol a methu mynd efo fo yn un o'r pethau anoddaf mae wedi ei wneud, meddai Gwennan.
"Dyna oedd y peth anoddaf un.
"Yr unig beth 'o'n i isho'i wneud oedd mynd yn yr ambiwlans efo fo. Ro'n i isho torri'n hun yn fy hanner rhywsut.
"Ond roedd rhaid mi fod yn gryf iddo fo.
"Ddoi byth dros y noson honno," meddai Gwennan.
Canu'r gloch
Ar ôl chwe mis o driniaeth cemotherapi mae Caio bellach yn well ac wedi cael "canu'r gloch" sef gweithred symbolaidd ar y ward yn Alder Hey sy'n arwydd ei fod wedi gwella a bod ei driniaeth wedi dod i ben.
Mae'r teulu bellach yn falch o gael bod adref ym Mhencaenewydd yn ceisio ymdopi efo beth sydd wedi digwydd a mynd yn ôl i "fywyd normal".
Ond mae digwyddiadau'r wythnos honno ym mis Ionawr 2018 a ddechreuodd wedi i Caio gael haint yn ei glust yn dal yn fyw iawn i Gwennan.
"Doedd o ddim wedi codi nôl ar ôl yr infection - roedd o'n oer, yn llwyd, off ei fwyd ac wedi blino - a ddim yn fo'i hun," meddai Gwennan.
Aeth ag o at y meddyg dair gwaith yr wythnos honno. Yn gyntaf cafodd wybod mai firws oedd arno, wedyn pan ddechreuodd basio gwaed yn ei ddŵr, cafodd dabledi am haint dŵr, ond doedd Gwennan yn dal ddim yn hapus.
"O'n i'n temlo bod nhw ddim yn gwrando ar be' o'n i'n ddeud felly mi es i â fo nôl ar y bore Iau. Mi wnaeth y doctor hwnnw wrando arna' i ac ar y p'nawn hwnnw gafodd o dynnu ei waed."
Ond yn y cyfamser roedd dŵr Gwennan wedi torri, arwydd bod y babi ar ei ffordd. Felly tra roedd ei fodryb yn casglu Caio o'r feddygfa roedd Gwennan ac Ilid ar eu ffordd i'r ysbyty ym Mangor, siwrnai o ryw 45 munud o Bencaenewydd.
Er iddyn nhw gael eu hanfon nôl y p'nawn hwnnw roedden nhw nôl y diwrnod wedyn i ddechrau'r enedigaeth gyda help yr ysbyty. A dyna pryd cafodd Gwennan yr alwad.
Cyfarfod Math am y tro cyntaf
Ar wahân i ryw bedwar diwrnod adref rhwng bob cylch triniaeth cemotherapi, treuliodd Caio'r chwe mis nesaf yn Alder Hey.
"Roeddan ni'n trafaelio bob dydd am yr wythnos gynta' ac roedd hynny reit galad," meddai Gwennan a aeth i Lerpwl ac yn ôl yn syth ar ôl geni Math gan ei adael yng ngofal ei mam yn Ysbyty Gwynedd.
"Cafodd Math ddod adre dydd Sul. Ddes innau adre efo fo cyn mynd ymlaen i Lerpwl tra roedd Mam yn aros efo Math.
"Roedd Caio'n sâl efo'r chemo cyntaf," medda Gwennan "ac mi ro'n i isho bod yna, ond roedd rhaid i mi fod adref hefyd.
"Roedd o'n anodd... ond mae Caio wedi bod mor gryf ac mor ddewr drwydda fo i gyd. Diolch ei fod o fel mae o neu mi fydda' wedi bod yn anoddach arnan ni - mae o 'di bod yn dda iawn.
"Mi ddoth Math efo fi i Lerpwl bump diwrnod ar ôl ei eni a dyna oedd y tro cyntaf i Ilid a Caio gyfarfod Math.
"Roedd Caio eisiau chwaer felly roedd o'n flin am ychydig bach!"
Wedi'r wythnos gyntaf fe dalodd taid Gwennan am fflat iddyn nhw gael byw ynddo fel teulu gyferbyn â drws blaen Alder Hey am weddill y driniaeth ac fe wnaeth hynny wahaniaeth mawr iddyn nhw, meddai Gwennan.
"Rŵan mae o'n hitio fi ac Ilid, rŵan ein bod ni adre. Doeddan ni ddim yn ymwybodol yn Lerpwl - dim ond derbyn mai dyna oedd yn digwydd bob diwrnod ond mi rydan ni fwy ymwybodol o be' sydd wedi digwydd rŵan ein bod ni adre a phopeth wedi arafu.
"Pan ydach chi yn ei ganol o 'sgynnoch chi ddim dewis ond cario mlaen, mae'n rhaid i chi."
Mae Caio'n dal i flino ac yn gorfod bod yn ofalus iawn pan mae salwch o gwmpas ond roedd cael canu'r gloch yn foment fawr iddo.
"Cael canu'r gloch oedd y diwedd i Caio - y diwrnod hwnnw gafodd o dynnu'r central line ac mi ddywedodd 'Dwi'n well rŵan yn dydw Mam? Dwi'n hundred percent rŵan'!"
Mae bywyd yn ôl yn weddol normal rŵan meddai Gwennan. Mae hi'n mynd â Nedw a Caio i'r cylch meithrin a'r ysgol yn bore sy'n rhoi ychydig bach o oriau iddi ddal fyny gyda'r amser mae hi wedi ei golli gyda Math.
"Mae rhywbeth fel hyn yn gwneud chi feddwl be' 'di'r pethau pwysig mewn bywyd," meddai.
Efallai o ddiddordeb: