Cyngor yn ffafrio adeiladu ffordd arfordirol newydd

  • Cyhoeddwyd
A487
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rhai arbenigwyr fe allai'r ffordd bresennol ger yr arfordir gael ei cholli o fewn 20 mlynedd

Mae Cyngor Sir Penfro wedi datgelu'r llwybr maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer ffordd newydd yn lle'r un bresennol sy'n cael ei pheryglu gan y môr.

Cafodd y ffordd bresennol, yr A487 drwy Niwgwl, ei chau am gyfnod yn dilyn tywydd garw yn 2014 ac roedd pryder am ei dyfodol hirdymor gan ei bod mor agos i'r môr.

Bwriad y cyngor yw adeiladu ffordd newydd o Benycwm milltir a hanner ar lethrau'r dyffryn uwchben traeth Niwgwl, a hefyd codi cylchfan newydd i'r de o bentre'r Garn.

Roedd swyddogion wedi ystyried opsiynau eraill, gan gynnwys adeiladu traphont ddŵr.

Y gred yw y gallai'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gostio rhwng £25m-£30m.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y ffordd, sy'n cysylltu'r ardal gyda penrhyn Dewi, eu datgelu mewn arddangosfa yn Neuadd Buddug ym mhentre'r Garn ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r ffordd newydd yn mynd o Benycwm i gylchdro newydd ger pentre'r Garn

Dywedodd y cynghorydd Phil Baker, aelod cabinet dros drafnidiaeth: "Yn dilyn stormydd 2014 pan fu'r ffordd hon ar gau droeon ac o ystyried effaith newid yn yr hinsawdd ar lefel y môr yn y dyfodol, gwnaethom ymgynghori â'r cyhoedd ar nifer o opsiynau er mwyn sicrhau cysylltedd yr ardal hon.

"Mae gan y llwybr hwn gefnogaeth gref ymhlith y cyhoedd, mae'n un o'r atebion mwyaf cost-effeithiol a hwn sy'n rhoi'r mynediad gorau i olygfeydd eiconig Niwgwl.

"Bydd amserau teithio hefyd yn gwella," ychwanegodd.

Os bydd y Cabinet yn cytuno, bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ymgymryd ag astudiaethau pellach o gyflwr, ecoleg ac amgylchedd y ddaear ar hyd y llwybr er mwyn penderfynu ar union leoliad y ffordd.

Yna ar ôl gwaith archwilio'r tir a chynnal profion fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus cyn i'r sir wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr A487 ei chau am gyfnod yn dilyn tywydd garw yn 2014

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe fydd swyddogion trafnidiaeth yn parhau i gydweithio'n agos gyda'r awdurdod wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y problemau cyfredol gyda'r A487.

"Mae Llywodraeth Cymru yn agored i ystyried cais ar gyfer cyllideb fyddai'n caniatáu symud ymlaen gyda'r gwaith datblygu."

Cyn unrhyw benderfyniad terfynol, fe fydd angen cynnal ymchwiliad cyhoeddus gan fod hwn yn gynllun mawr o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.